Mae naw achos Covid-19 positif ychwanegol wedi eu cofnodi yng ngharfan a staff rhanbarth rygbi Munster yn Ne Affrica.

Gallai hynny olygu oedi pellach yn eu hymdrechion i ddychwelyd i Iwerddon, wrth i gyfyngiadau teithio eu rhwystro rhag gwneud hynny.

Mae’r grŵp sydd wedi profi’n positif bellach wedi cael eu symud i westy ar wahân yn ninas Cape Town, a bydd gweddill y tîm yn ynysu yn y gwesty gwreiddiol.

Yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd Jack Chambers, Ysgrifennydd Chwaraeon Iwerddon, y byddai unrhyw un sy’n profi’n negyddol yn cael teithio adref.

Er hynny, mae’n debyg y byddai’n rhaid i’r holl garfan hunanynysu am ddeng niwrnod unwaith y byddan nhw’n cyrraedd Iwerddon, sy’n debygol o effeithio ar eu hamserlen, gan gynnwys eu gêm gyntaf yng Nghwpan Pencampwyr Heineken yn erbyn Wasps ar Ragfyr 12.

Achosion newydd

Cyhoeddodd Munster ddatganiad yn cadarnhau’r achosion ychwanegol.

“Mae cyfres ddiweddaraf Munster o brofion PCR wedi nodi naw achos positif,” meddai’r datganiad.

“Bydd y grŵp, gan gynnwys staff a chwaraewyr, yn symud i westy cwarantîn dynodedig yn Cape Town, gan ymuno â’r chwaraewr sydd eisoes wedi profi’n bositif.

“Mae gweddill y garfan – 38 i gyd – wedi dychwelyd canlyniadau negyddol ac yn parhau i ynysu’n unigol yn eu hystafelloedd, lle maen nhw wedi bod ers nos Sul.

“Fel cafodd ei amlinellu gan lywodraeth Iwerddon ddydd Llun (Tachwedd 29), mae’r rhai sydd wedi cael canlyniadau negyddol wedi cael caniatâd i deithio gan awdurdodau De Affrica.

“Gan gymryd pob rhagofal, mae’r rhai sy’n teithio wedi cwblhau cymal arall o brofion PCR y bore yma – y trydydd mewn llai na 60 awr – a byddwn yn aros am ganlyniadau cyn penderfynu ar y camau nesaf.”

‘Diolch’

“Bydd y deg aelod o’r grŵp sydd wedi profi’n bositif yn aros yn Cape Town tan ddiwedd eu cyfnod ynysu,” ychwanegodd Munster.

“Er bod yr unigolion yn siomedig ynglŷn â derbyn y newyddion, rydyn ni’n ddiolchgar eu bod nhw mewn cyflwr da, a byddan nhw’n parhau i gael eu monitro’n feddygol yn y cyfamser.

“Rydyn ni’n deall bod hon yn sefyllfa heriol a hoffem ddiolch i deuluoedd, ffrindiau, cydweithwyr a’r gymuned rygbi am y negeseuon niferus o ddymuniadau gorau.”