Mae Clwb Pêl-droed Dinas Bangor wedi’u gwahardd rhag chwarae am resymau disgyblu.
Daw hyn ar ôl iddyn nhw fethu â chydymffurfio â Gorchymyn Panel Disgyblu mewn perthynas ag achosion sawl aelod o staff y clwb sydd heb gael eu talu.
Cafodd y clwb orchymyn i dalu’r cyflogau dyledus o fewn 31 diwrnod ar ôl Hydref 29.
Mae methu â thalu o fewn y cyfnod hwnnw’n golygu bod y clwb wedi cael gwaharddiad awtomatig rhag chwarae mewn unrhyw gemau hyd nes y byddan nhw’n cydymffurfio â’r Gorchymyn.
Mae’r gwaharddiad yn golygu na all y clwb chwarae mewn unrhyw gystadleuaeth nac ar unrhyw gae o dan reolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Does dim hawl ganddyn nhw gynnal ymarferion hyfforddi o fewn y clwb na chymryd rhan mewn ymarferion o dan reolaeth y Gymdeithas Bêl-droed.
Yn olaf, does dim hawl ganddyn nhw ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol sy’n gysylltiedig â’r clwb na’r byd pêl-droed ehangach.