Mae pennaeth Asiantaeth Diogelwch Iechyd y Deyrnas Unedig wedi annog pobl i beidio cymdeithasu os nad oes angen.

Yn ôl Dr Jenny Harries fe all pobl helpu i arafu lledaeniad yr amrywiolyn newydd Omicron drwy gyfyngu nifer y bobl maen nhw’n cymdeithasu gyda nhw. Mae hi hefyd wedi annog pobl i gael eu brechiad atgyfnerthu.

Mae 14 o achosion o’r amrywiolyn wedi cael eu cofnodi ar draws y DU ar hyn o bryd ond mae arbenigwyr yn disgwyl i’r nifer godi yn y dyddiau nesaf.

Mae yna bryderon y gallai Omicron gael ei ledaenu’n haws ac na fydd brechlynnau mor effeithiol ond mae dirprwy brif swyddog meddygol Lloegr, yr Athro  Jonathan Van-Tam, wedi dweud y gallai’r brechlynnau barhau i atal salwch difrifol.

Dywedodd Dr Harries wrth raglen Today ar BBC Radio 4: “Hyd yn oed os ydy’r brechlynnau yn effeithlon ond ry’n ni’n gweld bod yr amrywiolyn yn fwy heintus, ac mewn niferoedd mawr o’r boblogaeth, fe allai gael effaith sylweddol ar ein hysbytai.

“Ac wrth gwrs, yn y gaeaf ac yn enwedig o gwmpas y Nadolig, rydyn ni’n tueddu i gymdeithasu mwy felly dwi’n credu bod angen cymryd hynny i ystyriaeth,” meddai.

Mae mesurau newydd i fynd i’r afael a Omicron wedi dod i rym heddiw (30 Tachwedd) gyda gorchuddion wyneb yn orfodol mewn siopau, a llefydd fel banciau, swyddfeydd post, siopau trin gwallt, ac ar drafnidiaeth gyhoeddus yn Lloegr.

Yng Nghymru mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y dylai gorchuddion wyneb gael eu gwisgo yn yr ystafell ddosbarth mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion.

Fe fydd pob teithiwr sy’n dychwelyd i’r DU yn gorfod cymryd prawf PCR a hunan-ynysu nes eu bod yn cael prawf negyddol.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog Boris Johnson gynnal cynhadledd newyddion yn Downing Street pnawn ma i annog pobl i gael eu brechlyn atgyfnerthu pan fyddan nhw’n cael cais i wneud hynny.