Mae EasyJet yn dweud bod yr amrywiolyn Omicron yn effeithio ar y galw am hediadau wrth i’r cwmni awyrennau ddatgelu colledion blynyddol o fwy nag £1 biliwn.

Yn benodol, mae cwymp mawr wedi bod yn y galw am deithiau i ddinasoedd.

Nid yw’r gostyngiad ar yr un lefel a welwyd pan oedd cyfyngiadau llymach mewn grym, yn ôl Prif Weithredwr y cwmni Johan Lundgren.

Fodd bynnag, rhybuddiodd ei bod hi’n “rhy gynnar” i amcangyfrif yr effaith yn y pen draw.

Daeth cyfyngiadau newydd i rym ddydd Mawrth (30 Tachwedd) mewn ymdrech i reoli’r amrywiolyn newydd, gyda’r Llywodraeth yn cyhoeddi bod yn rhaid i bob teithiwr sy’n dychwelyd i’r Deyrnas Unedig nawr gymryd prawf PCR a hunanynysu nes eu bod yn cael canlyniad negyddol.

Colledion o £1 biliwn

Daeth y sylwadau wrth i’r cwmni gyhoeddi colledion cyn treth o £1.04 biliwn ar gyfer y flwyddyn hyd at 30 Medi.

Daw hyn yn dilyn colledion o £1.27 biliwn y flwyddyn flaenorol, sef y golled lawn gyntaf yn ei hanes 25 mlynedd.

Er gwaethaf yr ansicrwydd presennol, dywedodd EasyJet ei fod yn dal yn obeithiol y bydd yn adfer i lefelau masnachu cyn y pandemig yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Dywedodd y cwmni ei fod yn disgwyl cynyddu ei raglen hedfan i tua 65% o’r lefelau cyn y pandemig yn y chwarter presennol hyd at ddiwedd mis Rhagfyr, er bod y targed blaenorol yn 70%.

“Rydym wedi gweld dechrau calonogol eleni, gyda galw mawr yn dychwelyd am gyfnod y gaeaf ynghyd â galw cynyddol yn yr haf, gyda disgwyl i gapasiti’r pedwerydd chwarter fod yn agos at lefelau blwyddyn lawn 2019,” meddai Johan Lundgren.

“Rydym yn ymwybodol bod llawer o ansicrwydd yn parhau, ond rydym yn gweld cyfle unigryw i EasyJet ddenu cwsmeriaid a chymryd cyfran o’r farchnad o gystadleuwyr yn y cyfnod hwn.”

Mae Johan Lundgren wedi cwestiynu penderfyniad y Llywodraeth i gyflwyno profion PCR i bob teithiwr.

“Mae yna gwestiwn mawr o hyd ynglŷn â pham ein bod wedi cyflwyno profion PCR cyffredinol pan fyddwn yn dod â phobl o wledydd lle nad oes ganddynt achosion wedi’u cofnodi o gwbl,” meddai.