Mae Coleg Brenhinol y Milfeddygon yn cynnal cynhadledd heddiw (dydd Mawrth, 30 Tachwedd), er mwyn ystyried yr heriau mae Brexit a’r pandemig Covid-19 wedi eu cyflwyno i’r sector milfeddygol.

Daw hyn ar ôl i’r maes ar draws y Deyrnas Unedig weld prinder sylweddol mewn milfeddygon dros y blynyddoedd diwethaf, sydd wedi achosi pwysau ychwanegol a chynnydd mewn llwyth gwaith.

Roedd nifer sylweddol o’r milfeddygon a oedd yn arfer cael eu cyflogi yn y Deyrnas Unedig yn dod o wledydd yr Undeb Ewropeaidd, ac mae Brexit a Covid-19 wedi golygu nad oes modd i bobol o dramor deithio yma i weithio.

Roedd tua 500 yn llai o filfeddygon o’r Undeb Ewropeaidd wedi cael eu cymhwyso yn y Deyrnas Unedig yn chwe mis cyntaf 2021 (250) o’i gymharu â chwe mis cyntaf 2019 (757).

Mae hynny wedi gadael ei ôl gan fod prinder yn nifer y milfeddygon sy’n cael eu hyfforddi yma.

Sgil-effeithiau

Mae Dafydd Jones, sy’n un o bartneriaid Milfeddygfa Ystwyth yn Llanbadarn Fawr ger Aberystwyth, yn teimlo bod Brexit a Covid-19 wedi bod yn ffactorau niweidiol iawn ar wasanaethau milfeddygol.

“Yn bendant, mae’r ddau wedi chwarae rhan fawr,” meddai wrth golwg360.

“Mae swyddi ar eu prinder, ac mae Brexit yn un o’r ffactorau sy’n chwarae rhan fawr yn hynny.

“Roedd canran fawr o’r milfeddygon sy’n cael eu cofrestru efo’r Royal College pob blwyddyn yn dod o’r Undeb Ewropeaidd, ac yn amlwg, mae Brexit wedi effeithio’n sylweddol ar hynny.

“Yn benodol yn y sector lladd-dai, roedd yna ffigwr ar ryw bwynt yn dangos bod 100% o’r milfeddygon oedd yn gwneud y gwaith yn y sector hwnnw’n dod o’r Undeb Ewropeaidd, felly mae Brexit wedi gadael ei ôl yn fan hynny hefyd.”

Dafydd Jones, Y Fets
Dafydd Jones o filfeddygfa Ystwyth yn Aberystwyth

Effaith Covid

“Oherwydd Covid, mae’r rheiny sydd yn gallu dod o dramor wedi methu gwneud, a does dim modd teithio mor hawdd,” meddai Dafydd Jones.

“Un effaith arall mae Covid wedi ei gael yn bendant ydy bod yna gynnydd mawr wedi bod yn y gwaith, yn enwedig ar yr ochr anifeiliaid anwes.

“Mae wedi bod yn gyfnod lle mae popeth yn cymryd mwy o amser oherwydd y cyfyngiadau hefyd, ac mae hynny wedi rhoi pwysau ychwanegol ar y milfeddygfeydd gan fod y gweithlu’n llai a’r gwaith yn cynyddu.”

‘Peri gofid’

O ran yr argyfwng sy’n wynebu rhai milfeddygfeydd yng Nghymru, dywed Dafydd Jones bod rhaid ystyried y bylchau yn y sector wrth recriwtio.

“Mae’n peri gofid yn bendant,” meddai.

“Mae rhywun yn teimlo fel eu bod nhw’n dechrau sefydlu rwan ar ôl y prysurdeb mawr yn sgil y cloi, ond yn dal, dw i’n ymwybodol o rai milfeddygfeydd sy’n brin iawn o staff ac yn methu recriwtio.

“I rywun sydd yn rhedeg milfeddygfa, mae o’n rhywbeth sydd yng nghefn meddwl rhywun drwy’r amser ei bod hi’n anodd iawn ffeindio’r staff pan mae rhywun yn chwilio amdanyn nhw.

“Mae ’na dipyn llai allan yna nag oedd.”

‘Gorau po fwyaf sy’n gallu hyfforddi’

Eleni, fe wnaeth Ysgol Gwyddor Filfeddygol gyntaf Cymru gael ei hagor ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy’n golygu bydd modd i fyfyrwyr dderbyn hyfforddiant pum mlynedd ochr yma i’r ffin, yn ogystal ag yn Lloegr.

Dywed Dafydd Jones ei fod yn croesawu unrhyw gynnydd sydd yn cael ei wneud o ran hyfforddiant yn y maes.

“Mae hynny i’w groesawu, a dw i’n falch iawn o weld honno’n agor,” meddai.

“I gael 25 ar y cwrs yn fanno, mae hynny’n beth calonogol iawn, ac mae ’na ddisgwyl mawr wedi bod amdano.

“Ond yn bendant, rydyn ni’n gweld bod yna brinder yng nghefn gwlad Cymru, ac mae’n gallu bod yn anodd i ddenu pobol i swyddi oherwydd y prinder yna mewn milfeddygon.

“Felly gorau po fwyaf sy’n gallu hyfforddi, ac i allu gwneud hynny yng Nghymru – mae hynny’n rhywbeth fydden i’n gefnogol iawn ohono.”