Gallai troseddwyr sy’n cam-drin plant wynebu dedfrydau llymach, gan gynnwys carchar am oes, mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi.
Mae’r cosbau llymach am amrywiaeth o droseddau yn ymwneud a chreulondeb i blant ymhlith cyfres o fesurau y mae gweinidogion am eu hychwanegu at Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd.
Daw’r newidiadau, sy’n cael eu galw’n Gyfraith Tony, yn dilyn ymgyrch gan yr Aelod Seneddol Tom Tugendhat a’r teulu sydd wedi mabwysiadu Tony Hudgell, saith oed, a gafodd ei gam-drin gan ei rieni.
Roedd Tony Hudgell wedi colli ei ddwy goes yn 2017 o ganlyniad i’w rieni biolegol yn ei gam-drin.
Wrth groesawu’r newidiadau dywedodd mam fabwysiadol Tony, Paula Hudgell, fod yn rhaid gwneud mwy i amddiffyn plant bregus.
Roedd Tony Hudgell wedi dioddef ymosodiadau gan ei rieni ers yn fabi, gan achosi niwed difrifol i ligamentau ei goes.
Ni chafodd driniaeth am 10 diwrnod.
O ganlyniad i’r niwed difrifol, fe gollodd ei ddwy goes ac mae Tony bellach yn gaeth i gadair olwyn.
Cafodd ei rieni biolegol eu dedfrydu i 10 mlynedd o garchar.
O ganlyniad i’r newidiadau yn y gyfraith, bydd y ddedfryd gall troseddwyr ei wynebu nawr yn cynyddu i 14 mlynedd.
Mewn datganiad dywedodd Paula Hudgell: “Rydym wrth ein bodd bod Cyfraith Tony yn cael ei chefnogi gan y Llywodraeth.
“Ein gobaith ers i’r rhai wnaeth gam-drin ein mab gael eu carcharu yn 2018 yw y gellid gwneud mwy i amddiffyn plant eraill, aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas.”
Helpu eraill
Mae Tony Hudgell wedi codi arian i helpu eraill.
Aeth ati i godi £500 i’r ysbyty a achubodd ei fywyd drwy gerdded 10km mewn 30 diwrnod ar ei goesau prosthetig.
Fodd bynnag, yn y pen draw cododd dros £1 miliwn.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Dominic Raab fod angen y newidiadau.
“Rhaid i’r gyfraith ddarparu’r amddiffyniad mwyaf posibl i’r rhai mwyaf agored i niwed a does neb yn fwy agored i niwed na phlentyn ifanc,” meddai.
“Rwy’n talu teyrnged i ddewrder Tony Hudgell a’i rieni mabwysiadol, Paula a Mark.”
Cyfraith Harper
Mae Gweinidogion hefyd wedi cadarnhau gwelliant arall i Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd.
Bydd y gwelliant hwn – Cyfraith Harper – yn golygu bod troseddwyr sy’n lladd gweithiwr y gwasanaethau brys tra eu bod ar ddyletswydd yn derbyn dedfryd orfodol o garchar am oes.
Mae’r newid yn y gyfraith yn nodi diwedd ymgyrch ddwy flynedd gan Lissie Harper ar ôl i’w gŵr, yr heddwas Andrew Harper, gael ei lofruddio tra’n ymateb i ladrad yng nghanol y nos.
Cafodd Henry Long, 19 oed, ei ddedfrydu i 16 mlynedd dan glo, tra bod Jessie Cole ac Albert Bowers, 18 oed, wedi cael eu dedfrydu i 13 mlynedd yn y carchar.
Dywedodd Lissie Harper ei bod hi eisiau gweld gweithwyr y gwasanaethau brys yn cael eu diogelu’n well.