Bydd protest yn cael ei chynnal yng Nghonwy ddydd Sadwrn (4 Rhagfyr) er mwyn gwrthwynebu penderfyniad y cyngor sir i beidio â chodi premiwm treth y cyngor ar gyfer ail gartrefi.

Roedd y cynghorwyr wedi pleidleisio o blaid codi premiwm treth y cyngor i 50% ar gyfer perchnogion ail gartrefi o Ebrill 2022, ond cafodd y penderfyniad hwn ei wrthdroi gan y cabinet wedyn.

Mae rhai siroedd, gan gynnwys Gwynedd sy’n ffinio â Chonwy, wedi cynyddu premiwm treth y cyngor i 100%.

Bydd perchnogion ail gartrefi yn parhau i dalu premiwm o 25% o fis Ebrill 2022, ond dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne, sy’n cynrychioli Plaid Cymru ar y cyngor, fod peidio â chodi’r premiwm ar yr un raddfa â chynghorau cyfagos yn golygu bod Conwy yn “lle llawer iawn mwy deniadol i brynu ail dŷ”.

Mae Aaron Wynne yn cefnogi’r brotest Nid yw Cymru ar Werth yng Nghonwy, sy’n cael ei threfnu gan Gymdeithas yr Iaith, gan ddweud ei fod yn tybio nad yw cynghorwyr yn ymwybodol, nag yn parchu’r “broblem real” sy’n wynebu cymunedau gwledig.

“Dw i’n eithaf blin bod cynghorwyr ddim yn fodlon efo cynyddu premiwm ar dreth y cyngor ar ail dai o 25% i 50%,” meddai Aaron Wynne wrth golwg360.

“Dyna oedd y cynllun dros y flwyddyn ddiwethaf, a’r bwriad oedd ein bod ni’n codi rhicyn y premiwm bob blwyddyn tan rydyn ni’n cyrraedd 100% o bremiwm ychwanegol er mwyn medru cyrraedd lefel siroedd eraill o’n cwmpas ni.

“Mae Conwy wedi bod ar 25% o bremiwm am dair blynedd bellach, felly mae’r siroedd o’n cwmpas ni’n codi’n gynt nag ydyn ni’n codi.

“Felly mae’n gwneud Conwy’n lle llawer iawn mwy deniadol i brynu ail dŷ, sydd, wrth gwrs, wedyn yn gwneud hi’n llawer iawn anoddach i bobol ifanc fel fi brynu ein tŷ cyntaf heb sôn am ail dŷ.”

“Dim ewyllys gwleidyddol”

Dywedodd Aaron Wynne ei fod yn tybio nad yw cynghorwyr yn ymwybodol o’r “broblem real” sy’n wynebu cymunedau gwledig.

Conwy

“Fyswn i’n tybio ei fod o’n rhannol i wneud efo bod dim ewyllys gwleidyddol i wneud,” meddai Aaron Wynne wrth ystyried pam bod y cyngor wedi gwneud tro pedol ar y mater.

“Dw i ddim yn meddwl bod cynghorwyr yn parchu gymaint o broblem ydi [ail gartrefi] yn yr ardal wledig. Pan mae gen ti hanner y tai mewn pentref yn ail dai neu’n dai gwag hirdymor mae o’n cael effaith fawr ar y gymuned.

“Wedi dweud hynny, yn Llandudno, Deganwy, llefydd tebyg i hynny, mae yna broblem o dai gwag hirdymor felly mae hwnnw’n broblem, ond dydyn nhw jyst ddim yn gweld ochr arall y geiniog bod ail dai hefyd yr un broblem.”

Bydd premiwm o 50% yn cael ei godi ar berchnogion tai gwag hirdymor yng Nghonwy o Ebrill 2022 ymlaen.

“Un o’r rhesymau iddyn nhw beidio cefnogi codi premiwm [ar gyfer ail gartrefi] oedd bod ymwelwyr, pan maen nhw’n dod i’w tai nhw, yn cynnig rhywbeth i’r economi pan maen nhw yma,” meddai Aaron Wynne.

“Dw i ddim yn dadlau efo hynny. Ond be ydw i’n ddweud ydi – os fysa yna deulu’n byw yn y tŷ yna llawn amser, mi fysa fo’n cefnogi’r economi llawer iawn mwy na rhywun yn ymweld â’r tŷ am fis mewn blwyddyn yn hytrach nag am y flwyddyn gyfan.”

“Problem gynyddol”

Wrth ystyried difrifoldeb y sefyllfa yn sir Conwy, dywedodd Aaron Wynne fod ail gartrefi a thai gwag yn “broblem gynyddol”, a bod peidio â chodi premiwm ar yr un raddfa â chynghorau eraill yn gwneud y sir yn “llawer iawn mwy deniadol i brynu ail dŷ”.

“Mae hi’n ddigon hawdd dweud dydi yng Ngwynedd, lle mae gen ti Ben Llŷn ac Eryri a ballu… ond yng Nghonwy rydyn ni hefyd yn agos iawn at Eryri, rydyn ni’n gweld yr Wyddfa o lefydd fel Capel Curig sydd yn sir Conwy,” meddai Aaron Wynne.

“Dyda ni ddim yn bell o’r llefydd yma lle mae pobol isio dod i brynu ail dŷ, ac wrth gwrs os ydi o’n rhatach i brynu ail dŷ yng Nghonwy, mae rhywun yn mynd i wneud hynny.

“Mae’r knock-on mae hwnna’n ei gael ar bobol ifanc, teuluoedd ifanc yn cael effaith fawr achos dydi pobol ifanc ddim yn gallu prynu tŷ.

“Mae llawer iawn o’n ffrindiau i wedi symud o’r ardal yn barod i chwilio am waith a chwilio am rywle i fyw, dw i’n dymuno aros yn lleol i fyw a gweithio ond mae hynny’n dod yn fwyfwy amhosib.”

Bydd y brotest yn cael ei chynnal ar Sgwâr Lancaster yn nhref Conwy am 11 fore Sadwrn (4 Rhagfyr), a bydd Arfon Wynne yn canu ambell gân yno.

Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, mae’r ddwy blaid wedi addo “gweithredu’n uniongyrchol a radical i fynd i’r afael â’r llu o ail gartrefi” er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng tai.

Wrth ymateb i’r sylwadau dywedodd Cyngor Conwy y bydd hyn yn cael ei drafod gan Gynghorwyr yng nghyfarfod y Cyngor llawn ar 9 Rhagfyr, ac y bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud bryd hynny.

Un o gynghorau sir y gogledd yn cefnu ar benderfyniad i godi mwy o dreth ar ail gartrefi

Richard Evans, Gohebydd Democratiaeth Leol

Bydd perchnogion ail gartrefi yng Nghonwy yn talu premiwm o 25% o fis Ebrill 2022, gan aros ar y lefel bresennol