Dydi system gyfiawnder Cymru “ddim yn gweithio, ac mae’n annheg ac angen cael ei diwygio’n radical”, meddai arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.

Bydd Liz Saville Roberts a Gweinidog Cysgodol Llafur dros Ddioddefwyr a Chyfiawnder Ieuenctid, Anna McMorrin, yn cynnal cynhadledd ar system gyfiawnder Cymru heddiw (30 Tachwedd).

Mae’r gynhadledd yn cael ei chynnal ddwy flynedd ers cyhoeddi adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, a bydd gwleidyddion ac arbenigwyr o bob cwr o Gymru’n dod ynghyd i drafod gorffennol, presennol a dyfodol cyfiawnder a phlismona yn y wlad.

Mae’r digwyddiad yn gyfle i glywed gan gynrychiolwyr undebau sydd ar y rheng flaen gwasanaethau cyfiawnder a phlismona yng Nghymru am eu profiadau a’u dyheadau ar gyfer y system.

Bydd Llywodraeth Cymru a gwleidyddion eraill yn trafod y gwaith sydd ar y gweill er mwyn cyflawni argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, sy’n cynnwys datganoli cyfiawnder a phwerau plismona i Gymru.

“Hen bryd datganoli”

Dywedodd yr Aelod Seneddol Liz Saville Roberts ei bod hi’n “hen bryd datganoli pwerau dros gyfiawnder a phlismona” er mwyn integreiddio polisïau. 

“Nid yw’r system gyfiawnder yng Nghymru yn gweithio, mae’n annheg ac angen ei diwygio’n radical. Gan Gymru y mae’r gyfradd uchaf o droseddwyr sy’n cael eu carcharu yng ngorllewin Ewrop, sy’n sbarduno cylch o dlodi yn ogystal â phroblemau iechyd ac iechyd meddwl,” meddai Liz Saville Roberts.

“Mae pobl dduon chwe gwaith yn fwy tebygol o gael eu carcharu na’u cymheiriaid gwyn. Mae bron i hanner plant Cymru sy’n cael eu cadw yn y ddalfa yn cael eu cadw yn Lloegr, ymhell o’u cartrefi a chefnogaeth eu teuluoedd. Mae diffyg cronig o ddarpariaeth yn y gymuned i fenywod, ac y mae hyn hefyd yn torri cysylltiadau teuluol.

“Gyda Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn gynyddol ffyrnig wrth wneud penderfyniadau ar faterion cyfiawnder ar ein rhan, mae ymdrechion yng Nghymru i adeiladu system fwy adsefydliadol yn cael eu rhwystro dro ar ôl tro.

“Mae’n hen bryd datganoli pwerau dros gyfiawnder a phlismona i Lywodraeth Cymru.

“Byddai gwneud hynny yn caniatáu i ni integreiddio polisi gydag iechyd, addysg, tai a pholisi cymdeithasol er mwyn creu system sydd wir yn gwasanaethu pobl Cymru.”

“Llais cywir”

Ychwanegodd Anna McMorrin, yr Aelod Seneddol dros Ogledd Caerdydd, ei bod hi’n gweld system gyfiawnder troseddol “sydd wedi torri o dan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol”.

“Mae degawdau o doriadau wedi golygu diffyg mynediad priodol at gyfiawnder i bobl Cymru.

“Roedd adroddiad y Comisiwn ddwy flynedd yn ôl yn glir – rhaid i ni roi’r gorau i siomi pobl Cymru a sicrhau bod Llywodraeth Lafur Cymru yn gweld mwy o bwerau wedi’u datganoli a chael mwy o lais o fewn y system gyfiawnder.”

Bydd Cadeirydd y Comisiwn, Yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd; Mick Antoniw AoS, Cwnsler Cyffredin Cymru; y bargyfreithiwr a chyn-Aelod Seneddol Plaid Cymru, Elfyn Llwyd; Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn; a chynrychiolwyr undebau cyfiawnder a phlismona Cymru yn rhan o’r digwyddiad.