Roedd Ghislaine Maxwell wedi targedu merched ifanc er mwyn i’r pedoffeil Jeffrey Epstein eu cam-drin, yn ôl erlynwyr.
Yn Efrog Newydd roedd Ghislaine Maxwell, cynbartner Jeffrey Epstein, wedi ymddangos yn y llys ar gyfer diwrnod cyntaf yr achos yn ei herbyn ar gyhuddiadau o fasnachu rhyw.
Mae hi’n gwadu’r cyhuddiadau yn ei herbyn ac mae’r amddiffyniad yn dadlau ei bod yn cael ei defnyddio fel bwch dihangol am droseddau Epstein, yn dilyn ei farwolaeth yn y carchar yn 2019.
Ond mae’r erlyniad yn honni bod y ddau “yn bartneriaid” yn y gamdriniaeth rywiol.
Mae Ghislaine Maxwell wedi bod mewn carchar yn yr Unol Daleithiau ers iddi gael ei harestio y llynedd ac yn wynebu 80 mlynedd dan glo os yw’n ei chael yn euog.
Honnir ei bod wedi cael merched ifanc, rhai mor ifanc â 14 oed, i ymddiried ynddi er mwyn i’w phartner Epstein eu cam-drin rhwng 1994 a 2004.
Clywodd y llys bod Ghislaine Maxwell, 59, wedi byw bywyd “moethus” tra roedd y “gamdriniaeth erchyll” yn digwydd.
Yn ôl yr erlyniad, roedd Ghislaine Maxwell yn gyfrifol am reoli cartrefi Epstein lle’r oedd “rheolau llym” ar gyfer y staff – roedden nhw’n cael eu cyfarwyddo i “weld dim, clywed dim a dweud dim,” meddai Lara Pomerantz ar ran yr erlyniad.
Mae hi’n honni bod y diffynnydd wedi “chwarae rhan hanfodol yn y cynllun” gan ychwanegu: “Roedd hi’n gwybod yn union beth roedd hi’n gwneud. Roedd hi’n beryglus.”
Ond yn ôl Bobbi Sternheim ar ran y diffynnydd mae’r “cyhuddiadau yn erbyn Ghislaine Maxwell yn ymwneud a phethau y gwnaeth Jeffrey Epstein. Ond nid Jeffrey Epstein yw hi.”
Mae’r achos yn parhau.