Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig roi cefnogaeth frys i gymunedau gwledig sydd dal heb drydan yn sgil Storm Arwen, meddai’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.
Roedd tua 600 o dai ym Mhowys, Ceredigion, a Swydd Amwythig heb drydan am y bedwaredd noson neithiwr (29 Tachwedd), ac roedd nifer o dai yn Nyffryn Dyfrdwy yn yr un sefyllfa.
Yn ôl Scottish Power mae 450 o gartrefi yng Nghymru yn dal heb gyflenwad trydan heddiw (30 Tachwedd).
Mewn llythyr at weinidogion yn San Steffan, mae arweinydd y blaid, Jane Dodds, a’i llefarydd dros faterion gwledig, Tim Farron, wedi rhybuddio bod cymunedau gwledig fel De Clwyd, Ceredigion a Sir Drefaldwyn yn cael eu cymryd yn ganiataol, ac yn “cael eu gadael ar ôl gan y Llywodraeth mewn amser o angen”.
Mae’r llythyr yn galw ar weinidogion i weithredu a chynnig bwyd, llety brys, a chyflenwadau hanfodol eraill i bobol agored i niwed sydd wedi cael eu heffeithio gan y storm.
Ynghyd â hynny, maen nhw’n gofyn i’r fyddin ddod â generaduron trydan i gymunedau nes bod y trydan yn dod yn ôl, ac i’r Llywodraeth gynnig cefnogaeth ychwanegol i beirianwyr sy’n gweithio’n galed i adfer y cyflenwad trydan.
Mae’r blaid yn galw am reolau newydd fyddai’n ei gwneud hi’n ofynnol i gwmnïau trydan flaenoriaethu buddsoddi rhywfaint o’u helw mewn rhwydwaith drydan leol, er mwyn atal sefyllfaoedd fel hyn a chryfhau cyflenwadau trydan.
Byddai’r cynlluniau’n golygu bod rhaid i gyflenwyr trydan adfer trydan i gartrefi mor fuan â phosib os ydyn nhw heb drydan, neu wynebu dirwyon gan y rheoleiddiwr Ofgem.
“Annerbyniol”
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds, ei bod hi’n “annerbyniol” bod pobol “yn cael eu gadael heb drydan am gyfnodau estynedig o amser fel hyn”.
“Mae hyn yn cael effaith arbennig o ddifrifol ar bobol mewn cymunedau gwledig sydd methu teithio’n hawdd, gan gynnwys rhai hŷn,” meddai Jane Dodds.
“Rydyn ni’n mynnu bod y Llywodraeth yn cynnig cynllun gweithredu brys er mwyn sicrhau na fydd aelwydydd yn cael eu gadael heb drydan am ddiwrnodau eto – yn enwedig ym misoedd oer y gaeaf.
“Ynghyd â hyn, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn galw am ehangu faint o’r trydan a’r ynni adnewyddadwy sy’n cael ei gynhyrchu’n agosach at gartrefi.
“Dylai datblygiadau newydd, er enghraifft, gynhyrchu trydan ar eu safleoedd – gan eu gwneud nhw’n llai tebygol o fod heb drydan. Gallai hyn gynnwys prosiectau solar, gwynt neu hydro ar raddfa fechan, a byddai’n helpu i gefnogi’r economi leol a chreu swyddi lleol.”
“Cymryd yn ganiataol”
Ychwanegodd Tim Farron AS, llefarydd y blaid dros faterion gwledig, ei bod hi’n “warth” bod y Llywodraeth wedi anghofio am deuluoedd mewn ardaloedd gwledig ers dyddiau wedi Storm Arwen.
“Mae pobol yn ein cymunedau gwledig wedi cael llond bol ar gael eu cymryd yn ganiataol, a heb gefnogaeth briodol pan mae pethau’n mynd o’i le,” meddai.
“Rydyn ni’n galw am reolau newydd llym fyddai’n gorfodi cyflenwyr ynni i fuddsoddi mwy mewn rhwydweithiau trydan lleol, gyda dyletswydd i adfer trydan mor fuan â phosib pan mae’r trydan yn mynd.”