Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion y Cyd-bwyllgor ar Imiwnedd a Brechu (JCVI), a bydden nhw’n cymryd camau i gyflymu’r rhaglen frechu.

Mae’r newidiadau hynny’n cynnwys gwneud hi’n gymwys i bob oedolyn dros 18 oed dderbyn y brechiad atgyfnerthu, a chwtogi’r cyfnod cyn y cynigir y dos atgyfnerthu i dri mis.

Gofynnwyd i’r JCVI adolygu’r rhaglen frechu yn sgil amrywiolyn Omicron.

Mae’r JCVI yn cynghori y dylai unigolion sydd â system imiwnedd wan sydd wedi cael tri dos o’r brechlyn gael pedwaredd dros, gydag o leiaf tri mis rhyngddyn nhw.

Ni ddylid gwahaniaethu rhwng brechlynnau Moderna a Pfizer-BioNTech wrth ddewis pa un i’w ddefnyddio fel rhan o’r rhaglen atgyfnerthu, gan fod y ddau frechlyn yn cynyddu lefelau gwrthgyrff yn sylweddol pan fydden nhw’n cael eu cynnig fel dos atgyfnerthu, meddai’r JCVI.

“Amddiffyniad gorau posib”

Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru, nad yw hi’n “hysbys eto faint o amddiffyniad y bydd y brechlynnau COVID-19 yn ei roi yn erbyn yr amrywiolyn Omicron”.

“Fodd bynnag, teimlai’r JCVI y byddai cyflymu’r rhaglen yn sicrhau bod unigolion yn cael yr amddiffyniad gorau posibl,” meddai Eluned Morgan mewn datganiad.

“Drwy ymestyn cymhwysedd a lleihau’r bwlch cyn rhoi brechiad atgyfnerthu, y nod yw lleihau effaith yr amrywiolyn newydd ar y boblogaeth, a hynny cyn inni wynebu ton o heintiadau.

“Bydd y JCVI yn parhau i fonitro’r sefyllfa wrth i ragor o ddata ddod i’r amlwg.

“Byddwn yn parhau i ddilyn y dystiolaeth glinigol a gwyddonol, fel yr ydym wedi’i wneud ers dechrau’r pandemig.

“Rwyf wedi derbyn argymhellion y JCVI, yn unol â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig.

“Bydd Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn gwneud popeth sy’n angenrheidiol i gynyddu’r capasiti ar gyfer gweithredu’r cyngor hwn.”

“Neb yn cael eu gadael ar ôl”

Bydd pob unigolyn sy’n gymwys am frechiad atgyfnerthu yn derbyn gwahoddiad awtomatig i apwyntiad pan ddaw ei dro, meddai Eluned Morgan.

Mae’r flaenoriaeth yn parhau i gael ei roi i oedolion hŷn a rheiny sydd mewn perygl, ac mae Llywodraeth Cymru’n nodi nad oes angen ffonio’r bwrdd iechyd na meddygon teulu ynghylch apwyntiad.

Yn sgil y cyngor newydd, bydd “nifer sylweddol o wahoddiadau” yn cael eu hanfon dros yr wythnosau nesaf.

“Yn awr yn fwy nag erioed, yn sgil bygythiad yr amrywiolyn newydd hwn, mae’n bwysig bod pobl yn dod ymlaen ar gyfer eu hapwyntiadau pan gânt eu galw, yn enwedig y rhai nad ydynt eto wedi manteisio ar eu dos cyntaf,” meddai Eluned Morgan.

“Os nad ydych wedi cael dos cyntaf neu ail ddos, nid yw’n rhy hwyr i gysylltu â’ch bwrdd iechyd i drefnu apwyntiad. Ni fydd unrhyw un sy’n dewis cael ei frechu yn cael ei adael ar ôl.

“Gall y timau brechu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych a’ch cefnogi wrth gael y brechiad. Mae gan y rhan fwyaf o ganolfannau brechu mawr ardaloedd tawel i bobl eistedd wrth aros, ac mae gan lawer ohonynt nyrsys arbenigol hefyd i helpu’r rheini y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt.

“Gadewch inni ddiogelu Cymru gyda’n gilydd.”

Mae newidiadau wedi cael eu gwneud i deithio rhyngwladola chyngor newydd ar wisgo mygydau mewn ysgolion wedi cael ei gyhoeddi hefyd, yn sgil pryderon am yr amrywiolyn newydd.