Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i staff a disgyblion wisgo mygydau mewn ysgolion uwchradd, colegau a phrifysgolion, yn sgil ymddangosiad amrywiolyn Omricon.

Dylai hyn ddod i rym ym mhob lleoliad cyn gynted â phosib, a dylid gwisgo mygydau mewn mannau dan do lle nad oes modd ymbellhau’n gymdeithasol, meddai Llywodraeth Cymru.

Mae’r mesur yn un “rhagofalus dros dro”, meddai Jeremy Miles, Gweinidog Addysg Cymru mewn datganiad.

Mewn cyfweliad â radio LCB, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford bod gweinidogion yn dal i drafod yr awgrym o gau ysgolion yn gynharach dros y Nadolig.

“Lleihau’r tarfu”

Dywedodd Jeremy Miles ei bod hi’n “briodol” parhau i fod yn wyliadwrus yn sgil yr ansicrwydd gyda’r amrywiolyn.

“Blaenoriaeth Llywodraeth Cymru trwy gydol y pandemig yw cynyddu dysgu i’r eithaf a lleihau’r tarfu i’n pobl ifanc,” meddai Jeremy Miles.

“Gyda thair wythnos ar ôl o’r tymor, mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau y gall dysgu barhau i gynifer o ddysgwyr â phosibl.

“Mae dal i fod llawer nad ydym yn ei wybod am yr amrywiolyn hwn. Gyda’r lefel uchel hon o ansicrwydd, mae’n briodol ein bod yn parhau i fod yn wyliadwrus wrth flaenoriaethu parhad addysg.

“Mae’n atgyfnerthu’r angen i bawb yng Nghymru gael eu brechlyn neu hwblyn pan gânt eu cynnig, gwisgo gorchuddion wyneb pan fo angen, a threfnu prawf os ydyn nhw’n datblygu symptomau.

“Fel sydd wedi digwydd yn aml yn ystod y pandemig, bu rhaid gwneud penderfyniadau ar fyrder.

“Byddaf yn ysgrifennu at ysgolion, colegau a phrifysgolion i egluro’r canllawiau newydd.”

“Ymateb synhwyrol”

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi croesawu ailgyflwyno gorchuddion wyneb mewn ysgolion uwchradd.

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts (Sir y Fflint), Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros Addysg: “Dwi’n croesawu penderfyniad y Gweinidog heddiw i ail-gyflwyno gorchuddion wyneb mewn ysgolion uwchradd.

“Mae’n ymateb synhwyrol a chymesur i’r sefyllfa bryderus sy’n datblygu, ac yn cael ei wneud er lles disgyblion a’r holl staff.”

“Gweithredu’n sydyn”

Mae Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru wedi croesawu’r mesurau ychwanegol hefyd.

Dywedodd Mary van den Heuvel, Uwch Swyddog Polisi’r undeb, eu bod nhw “wedi bod yn galw am amser hir am fwy o fesurau lliniaru mewn ysgolion a cholegau er mwyn helpu i stopio lledaeniad Covid-19, a chadw pawb sydd ym myd addysg mor ddiogel â phosib”.

“O ystyried yr amrywiolyn newydd, mae hi’n bwysig ein bod ni’n gweithredu’n sydyn – a bydd mesurau megis gwisgo mygydau mewn dosbarthiadau yn cael eu croesawu,” meddai.

“Bydd gwyddonwyr yn dysgu mwy am Omicron yn y dyddiau nesaf ond bydd gweithredu nawr mewn ysgolion a cholegau yn helpu disgyblion a’r gweithlu addysg wrth agosáu at y Nadolig.

“Dim ond tair wythnos sydd gennym ni ar ôl o’r tymor ysgol, ac mae hi’n bwysig bod pob mesur posib yn cael ei roi mewn lle nawr.

“Bydd aelodau Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru yn poeni am lefelau absenoldebau staff, a does yna ddim canllawiau pellach ar gyfer ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig ar hyn o bryd a byddwn ni’n edrych tuag at weithio gyda Llywodraeth Cymru ar hyn er mwyn sicrhau bod dysgwyr a staff, yn ogystal â’u teuluoedd a’u cymunedau, yn cael eu cadw mor ddiogel â phosib.”

Mae rheolau ynghylch teithio rhyngwladol wedi newid yn barod yn sgil amrywiolyn Omicron, ac mae gofyn i bawb sy’n dod i Gymru o dramor gael prawf PCR a hunanynysu cyn cael canlyniad negyddol.

“Rhy gynnar i ddweud” a fydd angen cyfyngiadau Covid-19 newydd

Ond bydd rhaid i gysylltiadau agos ag achosion o Omicron hunanynysu am ddeng niwrnod, waeth beth yw eu statws brechu a’u hoedran