Mae hi’n “rhy gynnar i ddweud” a fydd angen cyfyngiadau newydd i reoli Covid-19 wrth agosáu at y Nadolig, yn ôl Ysgrifennydd Iechyd Cymru.
Mewn cynhadledd i’r wasg heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 30), dywedodd Eluned Morgan y bydd hi’n orfodol i gysylltiadau agos unrhyw un sydd ag achos o Omicron hunanynysu am ddeng niwrnod – beth bynnag eu hoed a’u statws brechu.
Does yna’r un achos wedi cael ei ganfod yng Nghymru eto, ond “cwestiwn o amser yn unig ydyw cyn iddo wneud”, meddai.
Mae 14 achos wedi cael eu canfod yn y Deyrnas Unedig, gydag awgrym ei fod yn lledaenu yn y gymuned yn yr Alban.
Mae Llywodraeth Cymru wedi newid y rheolau ar gyfer teithio rhyngwladol, ac maen nhw wedi ailgyflwyno mygydau mewn ysgolion.
Brechlynnau atgyfnerthu
Mae’r rhaglen brechlynnau atgyfnerthu yn cael ei hymestyn hefyd i gynnwys pob oedolyn dros 18 oed, a phwysleisiodd yr Ysgrifennydd Iechyd bwysigrwydd derbyn y brechlyn.
Mae’r brechlynnau yn cael yr effaith orau os ydyn nhw’n cael eu rhoi cyn i don bosib o Omicron daro, meddai, ac felly bydd y rhaglen yn cael ei chyflymu.
“Fe fyddwn yn brechu pobol hŷn yn gyntaf a’r rhai sydd mewn grwpiau risg,” meddai Dr Gill Richardson, dirprwy brif swyddog meddygol rhaglen frechu Covid-10 Cymru.
“Mae dros 840,000 o bobol wedi cael brechlyn atgyfnerthu hyd yma – pobol 65 a throsodd, pobol sy’n byw ac yn gweithio mewn cartref gofal a gweithwyr rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd Gwaladol gan fwyaf.”
Dywed y bydd hi’n “her” ehangu’r rhaglen frechu, a bod angen ehangu’r gweithlu.
“Mae gennym ddigon o gyflenwad ac fe fyddwn yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i wireddu’r cynlluniau.
“Bydd mwy o glinigau, ac fe fyddwn yn defnyddio safleoedd lle mae “gyrru i mewn” yn bosib.
“Mae yna lawer nad ydym yn ei wybod am yr amrywiolyn hwn ond fe fydd cael cryfhau’r diogelwch y mae brechu yn ei roi i ni o gymorth.
“Dyw hi byth yn rhy hwyr i gael eich brechu.”
Ychwanegodd Eluned Morgan fod “dealltwriaeth” fod hyn yn “rhywbeth fydd rhaid i ni ei wneud cyn gynted â phosib cyn ton bosib”.
‘Rhagofalus’
Wrth ateb cwestiwn ynghylch cyfyngiadau neu ganllawiau posib dros y Nadolig, dywedodd Eluned Morgan fod yna “lot dydyn nhw ddim yn ei wybod” am yr amrywiolyn ar hyn o bryd.
Mae hi’n annog pobol i fod yn ofalus, ac i ystyried y gallai cyfarfod â nifer fawr o bobol, yn enwedig dan do, fod yn beryglus.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i annog pobol i weithio gartref, ac mae’n orfodol i wisgo mygydau mewn llefydd cyhoeddus, ond dywedodd Eluned Morgan ei bod hi’n “rhy gynnar i ddweud” beth fyddan nhw’n ei benderfynu yn yr wythnosau nesaf.
“Rydyn ni’n llythrennol wedi cael dyddiau i asesu’r sefyllfa, a dw i’n meddwl bod rhaid i ni fod yn ymwybodol nad yw Omicron yn ein cymunedau ac mae gennym ni gyfrifoldeb i gadw’n cymdeithas ar agor mor hir â phosib,” meddai.
“Yn amlwg, os yw’r sefyllfa’n newid bydd rhaid i ni newid yn unol â hynny.”
Gofynnodd i bobol gadw at y rheoliadau sydd yn eu lle ar hyn o bryd.
“Dydyn ni ddim yn gwneud hyn am hwyl, rydyn ni’n gwneud hyn i’ch cadw chi’n saff. Mae hi’n bwysig iawn fod pobol yn deall y cyfrifoldebau, nid yn unig iddyn nhw eu hunain ond i’w cyd-ddyn yng Nghymru.”
Dywedodd Dr Gill Anderson ei bod hi’n well bod yn rhagofalus wrth weithredu gan na fydd y wyddoniaeth ynghylch Omicron yn gyflawn am dipyn o wythnosau.
O ystyried cyfrifoldebau unigol, dywedodd ei bod hi’n annog pobol i gymryd profion llif unffordd cyn ymweld â pherthnasau neu unigolion hŷn neu agored i niwed, yn enwedig os ydyn nhw wedi bod mewn digwyddiadau mawr.
“Dw i’n meddwl ei bod hi’n arbennig o bwysig ein bod ni’n defnyddio egwyddor ragofalus tra nad ydyn ni’n deall yr amrywiolyn,” meddai Eluned Morgan wedyn.
Mae’r gyfradd achosion yng Nghymru yn gostwng ar hyn o bryd, gyda 472.1 achos i bob 100,000 person yn y saith niwrnod hyd at heddiw.
Mae Gwynedd yn parhau i fod â’r gyfradd achosion uchaf (851 i bob 100,000 person), er bod y gyfradd wedi gostwng rywfaint.
Cadw ysgolion ar agor “cyn hired â phosib”
Mae Llywodraeth Cymru am gadw ysgolion ar agor “cyn hired â phosib,” meddai Eluned Morgan.
“Rydyn ni’n ymwybodol o’r niwed y gall hyn ei wneud i blant, mae eu tynnu o’r ysgol yn achosi anawsterau o ran addysg ac iechyd meddwl,” meddai.
“Felly byddwn yn gwneud ein gorau i gadw ysgolion ar agor a dyna pam ein bod wedi cyflwyno’r mesurau ar wisgo mygydau – nid dim ond ar y coridorau, ond mewn dosbarthiadau hefyd.
“Rydym am i blant wneud profion y flwyddyn nesaf, ac am bob diwrnod y maen nhw’n ei golli mae’n anodd bwrw ymlaen â’r profion hynny.”
“Gweithredu’n sydyn”
Mae Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru wedi croesawu cyflwyno mesurau ychwanegol mewn ysgolion a cholegau dros Gymru.
Dywedodd Mary van den Heuvel, Uwch Swyddog Polisi’r undeb, eu bod nhw “wedi bod yn galw am amser hir am fwy o fesurau lliniaru mewn ysgolion a cholegau er mwyn helpu i stopio lledaeniad Covid-19, a chadw pawb sydd ym myd addysg mor ddiogel â phosib”.
“O ystyried yr amrywiolyn newydd, mae hi’n bwysig ein bod ni’n gweithredu’n sydyn – a bydd mesurau megis gwisgo mygydau mewn dosbarthiadau yn cael eu croesawu,” meddai.
“Bydd gwyddonwyr yn dysgu mwy am Omicron yn y dyddiau nesaf, ond bydd gweithredu nawr mewn ysgolion a cholegau yn helpu disgyblion a’r gweithlu addysg wrth agosáu at y Nadolig.
“Dim ond tair wythnos sydd gennym ni ar ôl o’r tymor ysgol, ac mae hi’n bwysig bod pob mesur posib yn cael ei roi mewn lle nawr.
“Bydd aelodau Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru yn poeni am lefelau absenoldebau staff, a does yna ddim canllawiau pellach ar gyfer ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig ar hyn o bryd a byddwn ni’n edrych tuag at weithio gyda Llywodraeth Cymru ar hyn er mwyn sicrhau bod dysgwyr a staff, yn ogystal â’u teuluoedd a’u cymunedau, yn cael eu cadw mor ddiogel â phosib.”
Rygbi Caerdydd
O ran sefyllfa tîm rygbi Caerdydd, sydd yn Ne Affrica ar hyn o bryd ac yn methu dychwelyd, dywedodd Eluned Morgan “nad oes eithriadau” i reolau ynghylch teithio rhyngwladol.
Mae disgwyl i bobol sy’n dychwelyd o wledydd sydd ar y rhestr goch, fel De Affrica, hunanynysu am ddeng niwrnod mewn gwesty cwarantîn.
Does dim gwesty o’r fath yng Nghymru, gan nad oes maes awyr rhyngwladol yn y wlad.
“Mae’r rhan fwyaf o’n teithwyr yn glanio yn Lloegr, roedden ni’n meddwl y byddai’n cynyddu’r risg iechyd petaem ni’n symud pobol o faes awyr i westy yng Nghymru,” meddai, gan ychwanegu y byddai hi’n anodd dod o hyd i westy hefyd.
“Yn amlwg, mae gennym ni ddiddordeb mewn dod â’n hogiau ni adre ond bydd rhaid iddyn nhw ddod adref yn yr un ffordd ag y byddai disgwyl i bawb arall yn y wlad hon ddod adref.”