Mae ymateb Prif Weinidog Cymru i bryderon ynghylch cynlluniau i ad-drefnu ysgolion yng Nghwm Tawe yn “anfoddhaol”, yn ôl Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru.
Ysgrifennodd Sioned Williams, yr Aelod dros Orllewin De Cymru, at Mark Drakeford fis Hydref yn gofyn i’r Llywodraeth ymyrryd i atal Cyngor Castell-nedd Port Talbot rhag cau ysgolion cynradd yr Alltwen, Godre’r Graig a Llangwig.
Bydd un ysgol fawr cyfrwng Saesneg ar gyfer plant rhwng tair ac 11 oed yn cael ei sefydlu yn lle’r tair ysgol.
Yn ei llythyr, dywed Sioned Williams fod y cynlluniau’n “gwbl ddiffygiol” a’u bod nhw’n “ddinistriol” i’r Gymraeg.
Wrth ymateb i’w llythyr, dywedodd Mark Drakeford mai “awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am gynllunio lleoedd mewn ysgolion”.
Ateb Mark Drakeford
Yn ogystal, â rhannu gwybodaeth ynghylch y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer ad-drefnu, mae’r llythyr gan Mark Drakeford yn nodi “na all Gweinidogion Cymru wneud sylwadau ar rinweddau, neu fel arall gynigion, y gallai fod yn ofynnol iddynt eu penderfynu’n ddiweddarach” yn y broses.
“Cynhaliodd yr awdurdod asesiad rhagarweiniol o’r effaith ar y Gymraeg yn 2020 sy’n nodi Cwm Tawe fel ardal o sensitifrwydd ieithyddol. Mae ganddi’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghastell Nedd Port Talbot,” meddai yn y llythyr wrth gyfeirio at y prosesau o ran y Gymraeg.
“Felly, mae angen rhoi ystyriaeth ofalus i bob cynnig yn yr ardal a all effeithio ar y Gymraeg.
“Ystyriwyd hyn wrth gymeradwyo achos busnes yr awdurdod ar gyfer cyllid Rhaglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif. Cafodd ei gymeradwyo’n amodol ar gwblhau asesiad effaith ar y Gymraeg yn foddhaol
“Yn gynharach eleni, comisiynodd Llywodraeth Cymru ymgynghorydd cynllunio iaith annibynnol i helpu’r awdurdod lleol i baratoi asesiad llawn o’r effaith ar y Gymraeg, yn benodol mewn perthynas ag effeithiau cynigion cynllunio ysgolion mewn ardal a ddynodwyd yn un o sensitifrwydd ieithyddol.
“Daeth hyn i ben gydag adroddiad yr wyf wedi’i atodi er gwybodaeth. Yr wyf yn ymwybodol bod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd Port Talbot ar 20 Hydref wedi cymeradwyo cynnig yr awdurdod lleol i gau Ysgol Gynradd Alltwen, Ysgol Gynradd Godre’r graig ac Ysgol Gynradd Llangiwg a sefydlu Ysgol Gynradd cyfrwng Saesneg 3-11 newydd
“Mae fy swyddogion wedi cysylltu â’r Cyngor i’w hatgoffa bod yr achos busnes dros ariannu prosiect Cwm Tawe wedi cael cymeradwyaeth yn amodol ar gwblhau asesiad o’r effaith ar y Gymraeg yn foddhaol.
“Mae fy swyddogion wedi gofyn i’r Cyngor ystyried eu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg a’r camau lliniaru yn yr adroddiad a grybwyllir uchod.”
‘Haeddu ymyrraeth’
O dderbyn yr ymateb, dywedodd Sioned Williams ei bod hi’n “siomedig iawn” gyda’r ymateb “cwbl annigonol ac anfoddhaol”.
“Roeddwn wedi gofyn i Lywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei allu i wyrdroi penderfyniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot; fodd bynnag, nid yw ymateb Mark Drakeford yn ymrwymo i wneud hyn ac nid yw ychwaith yn ateb yn ddigonol unrhyw un o fy mhryderon ynghylch yr effaith niweidiol y bydd penderfyniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ei gael ar y cymunedau yng Nghwm Abertawe yr wyf yn eu cynrychioli,” meddai.
“Mae’n amlwg i mi y bydd y penderfyniad i gau tair ysgol gynradd yng Nghwm Tawe yn: torri’r cysylltiad rhwng addysg a’r gymuned leol, arwain at lai o ddarpariaeth addysg i blant o gefndiroedd difreintiedig, arwain at ddirywiad yn ansawdd yr aer o ganlyniad i gynnydd mewn tagfeydd a thraffig, lleihad mewn mannau gwyrdd lleol ac yn cael effaith hynod ddinistriol ar y Gymraeg.
“Mae anfanteision y cynlluniau yn amlwg yn llethol ac yn haeddu ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru.
“Bydd y diffyg arweinyddiaeth hwn gan Lywodraeth Cymru yn tristáu disgyblion, rhieni a thrigolion yr ardal.
“Rwy’n annog Cyngor Castell-nedd Port Talbot i edrych eto ar ei benderfyniad ac ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd os oes angen.”