Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cynnig ysgoloriaethau gwerth £1,000 i alluogi myfyrwyr wneud cwrs Dysgu Cymraeg.

Dyma fydd y tro cyntaf i’r Ganolfan gynnig cwrs o’r fath, a’r gobaith yw annog mwy o bobol ifanc i weithio yn y sector Dysgu Cymraeg.

Yn ogystal â chynnig ysgoloriaeth gwerth £1,000 bydd y Ganolfan hefyd yn talu costau llety a chynhaliaeth i’r ymgeiswyr llwyddiannus, os oes angen.

Bydd y cwrs yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd rhwng Gorffennaf 4-15, ond dim ond lle i 14 sydd.

Dyddiad cau ceisiadau ar gyfer yr ysgoloriaeth yw Rhagfyr 31, a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cyhoedd ddiwedd Ionawr.

‘Cyfle unigryw’

“Rydyn ni’n hynod o falch o allu cynnig y cyfle unigryw yma i fyfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru a thu hwnt,” meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

“Bydd rhai o diwtoriaid mwyaf profiadol y sector Dysgu Cymraeg i oedolion yn hyfforddi ar y cwrs.

“Mae’n cael ei gynnal yr un pryd â chwrs haf Dysgu Cymraeg Caerdydd, sy’n golygu y bydd digon o dasgau ymarferol a chyfle i arsylwi tiwtoriaid yn dysgu.”

‘Croesawu myfyrwyr o bob cefndir’

“Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr o bob cefndir, ac yn edrych ymlaen at gynnig profiadau dysgu ac addysgu gwerthfawr iddynt,” meddai Efa Gruffudd Jones wedyn.

“Rydyn ni eisiau gweld cyflenwad cyson o diwtoriaid newydd yn y maes, ac mae hwn yn gyfle gwych i fyfyrwyr gael blas ar waith allai gael ei wneud yn rhan amser tra’n datblygu gyrfa mewn maes arall neu fel gyrfa yn ei hun.

“Gall myfyrwyr sy’n astudio unrhyw bwnc wneud cais – rydyn ni’n chwilio am bobl gyda sgiliau cadarn yn y Gymraeg sy’n gallu ysbrydoli eraill i ddysgu a mwynhau siarad yr iaith.”