Bydd perchnogion eiddo yng Nghymru yn gallu derbyn arian am rentu llety i bobol ddigartref yng Nghymru, fel rhan o gynllun gweithredu newydd ar ddigartrefedd.
Yn ddiweddarach heddiw (dydd Mawrth, 29 Tachwedd), bydd Llywodraeth Cymru yn lansio’r cynllun, gyda chyllid o £30 miliwn ar gael i awdurdodau lleol, fel bod modd iddyn nhw annog perchnogion i ganiatáu i’w heiddo gael eu defnyddio gan awdurdodau lleol fel tai fforddiadwy.
Yna, bydd yr arian sy’n cael ei godi fel rhent yn cael ei ddychwelyd i’r perchnogion, fel eu bod nhw’n gallu cynnal a chadw eu heiddo.
Bydd cymorth megis cyngor iechyd meddwl ac ariannol hefyd ar gael i denantiaid, a fydd yn gallu rhentu eiddo am hyd at bump i 20 mlynedd.
Bwriad y Llywodraeth yw rhoi terfyn ar ddigartrefedd drwy ei gwneud hi’n haws i unigolion sicrhau llety a phrynu tai fforddiadwy o ansawdd da.
Daw hyn ar ôl i’r ymrwymiad hwnnw ymddangos yng Nghytundeb Cydweithio Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru’r wythnos diwethaf.
Cafodd ei nodi yn y cytundeb hwnnw y bydd y ddwy blaid “yn diwygio cyfraith tai, yn defnyddio’r Ddeddf Rhentu Cartrefi i roi mwy o sicrwydd i rentwyr ac yn gweithredu argymhellion y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd.”
‘Yn brin, yn fyr a heb ei ailadrodd’
Dywed y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, sy’n lansio’r cynllun gweithredu heddiw (dydd Mawrth, 30 Tachwedd), y dylai digartrefedd pan mae’n digwydd fod yn ‘brin, yn fyr a heb ei ailadrodd’.
Ddoe (dydd Llun, 29 Tachwedd), fe wnaeth y Gweinidog gyfarfod â Jonathan Lewis, gwr 42 oed o Abertawe, a oedd yn arfer bod yn ddigartref.
Ar ôl derbyn rhwydwaith o gefnogaeth, mae Jonathan bellach yn byw mewn cartref un ystafell wely o ansawdd da a fforddiadwy, ac mae’n gweithio yn llawn amser i elusen sy’n helpu pobl ddigartref i symud i dai â chymorth.
“Yr ychydig flynyddoedd diwethaf yw’r rhai anoddaf a’r mwyaf buddiol i mi erioed,” meddai Jonathan Lewis.
“Dydw i ddim wedi cael tŷ erioed, dydw i ddim wedi cael fy eiddo fy hun – mae wedi rhoi’r hwb roeddwn i ei angen – mae wedi rhoi rhywbeth i mi nad ydw i eisiau ei golli. Mae rhywun wedi ymddiried ynof i, fy mod i’n ddigon teilwng i gael rhywbeth da mewn bywyd.
“Dydw i ddim yn gallu credu ’mod i wedi dod o ystafell gyda gwely i rywbeth mor brydferth. Roeddwn i’n arfer symud o soffa i soffa neu gysgu yn fy nghar, ond nawr mae gen i gartref fy hun. Ac rydw i’n talu amdano gyda’r arian rydw i’n ei ennill. Mae’n fy ngwneud i’n wirioneddol falch. Rydw i’n ei gadw mor lân!
“Yn fy swydd newydd rydw i’n cefnogi pobl yn y sefyllfa rydw i wedi bod ynddi hefyd, i ddangos iddyn nhw bod bywyd yn gallu bod yn wahanol a dyma sut i’w wella. Rydw i eisiau helpu pobl fel rydw i wedi cael help.”
Ymateb y Gweinidog
Fe roddodd y Gweinidog Julie James ei hymateb ar ôl cyfarfod Jonathan Lewis.
“Mae cwrdd â Jonathan heddiw – sydd wir yn ysbrydoliaeth – yn dangos pwysigrwydd cartref gweddus, fforddiadwy a sefydlog i bawb,” meddai.
“Yn ogystal â’r holl waith caled mae Jonathan wedi’i wneud, mae’r gwasanaethau wedi gweithio gyda’i gilydd i roi’r gefnogaeth sydd arno ei hangen.
“Mae hyn yn golygu bod Jonathan bellach mewn sefyllfa dda i ddarparu’r gefnogaeth hon i eraill sy’n wynebu caledi a digartrefedd posib.
“Rydw i eisiau dweud diolch eto am waith rhyfeddol y rhai sy’n gweithio ym maes digartrefedd a gwasanaethau cymorth tai ym mhob awdurdod lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a’r trydydd sector.
“Fy mlaenoriaeth i nawr yw adeiladu ar ein llwyddiannau ni i atal digartrefedd a sicrhau, pan mae’n digwydd, ei fod yn brin, yn fyr a ddim yn cael ei ailadrodd.”