Mae tua chwarter poblogaeth Cymru yn disgwyl cael trafferthion iechyd corfforol neu feddyliol dros y Nadolig yn ôl arolwg.
Fe wnaeth yr arolwg i’r elusen The Big Give hefyd ganfod fod bron i hanner (45%) o drigolion Cymru yn rhagweld gorfod mynd i ddyled er mwyn dod dros gostau’r ŵyl eleni.
Mae’r ffigwr hynny’n uwch na’r cyfartaledd ar gyfer Prydain, sy’n dangos mai 37% sydd yn ofni am ddyled dros y Nadolig.
Roedd bron i ddau draean (60%) o drigolion Caerdydd yn bryderus am gostau cynyddol dros y misoedd nesaf.
‘Storm amherffaith’
Fe wnaeth yr arolwg gan Censuswide ar gyfer elusen The Big Give, holi 2,000 o unigolion ledled Cymru.
Mae eu cyfarwyddwr, Alex Day, wedi pwysleisio pwysigrwydd elusennau dros y Nadolig.
“Mae ein hastudiaeth yn dangos, yn anffodus, fod pobol ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig yn gyffredinol yn wynebu storm amherffaith,” meddai
“Bydd prisiau tanwydd uchel, problemau iechyd meddwl cronig, dyledion cynyddol, unigrwydd ac ofnau am Covid-19 yn golygu, i lawer, y bydd yr ŵyl hon yn bell o fod yn debyg i’r golygfeydd perffaith sy’n ymddangos ar gardiau Nadolig.
“Bydd rhai yn dibynnu ar elusennau a fydd yn gorfod delio â mwy a mwy o bwysau wrth i’r galw dyfu.
“Dyna pam, i’r rhai sy’n gallu, mae cefnogi elusennau yn bwysicach nag erioed.”
Ymgyrch
Dros y Nadolig, bydd The Big Give yn lansio ymgyrch, sy’n cael ei gefnogi gan enwau cyfarwydd fel Stephen Fry, Judi Dench a Russell Brand.
Mae Her y Nadolig, apêl codi arian fwyaf Prydain dros y Nadolig, yn cefnogi dros 900 o elusennau bach wrth godi arian, a bydd The Big Give yn cyfateb unrhyw rodd sy’n cael ei roi rhwng 30 Tachwedd a 7 Rhagfyr,
Derek Spinks yw rheolwr cyfathrebu a marchnata elusen Cerebra – sydd wedi ei lleoli yng Nghaerfyrddin a’n helpu plant sydd â chyflyrau ymennydd.
“Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o Her Nadolig y Rhodd Fawr unwaith eto,” meddai.
“Mae’n gyfle gwych i ni ddyblu ein rhoddion, ac yn y bôn, sicrhau dwywaith yr effaith!”