Mae’r Cymro Lyn Jones wedi rhoi’r gorau i’w swydd yn brif hyfforddwr tîm rygbi Rwsia ar ôl tair blynedd wrth y llyw.
Llwyddodd i fynd â nhw i Gwpan y Byd 2019, gyda’i dîm yn colli yn erbyn Siapan, Iwerddon, yr Alban a Samoa.
Eleni, mae Rwsia, sy’n 25ain yn y byd, wedi curo Rwmania a’r Iseldiroedd a cholli yn erbyn Georgia, Portiwgal, Sbaen a Chile.
Enillodd y cyn-flaenasgellwr bum cap dros Cymru, ac mae hefyd wedi hyfforddi gyda Chastell Nedd, y Gweilch, Cymry Llundain, y Dreigiau a Namibia.
“Mae gen i barch mawr at y gwaith mae Lyn Jones wedi’i wneud, er bod problemau difrifol wedi bod gyda Covid ac roedd yn anodd i’r prif hyfforddwr deithio i Rwsia,” meddai Igor Artemyev, cadeirydd ffederasiwn rygbi Rwsia.
“Dechreuodd Lyn adfywio’r tîm cenedlaethol ac yn y dyfodol, gall hynny ddod â chanlyniadau da.”