Bydd Pencampwriaeth Dartiau’r Byd y PDC yn dechrau ymhen ychydig dros bythefnos, ac mae’r pedwar chwaraewr o Gymru bellach yn gwybod pwy fydd eu gwrthwynebwyr cyntaf yn y gystadleuaeth.
Daeth yr enwau allan o’r het neithiwr (nos Lun, Tachwedd 29) ar gyfer rowndiau cynta’r gystadleuaeth yn yr Alexandra Palace yn Llundain, a fydd yn cael ei chynnal rhwng Rhagfyr 15 a Ionawr 3.
Gerwyn Price yw’r ffefryn, ac yntau’n bencampwr byd ar hyn o bryd ac yn brif ddetholyn, ac fe fydd e’n herio naill ai Ritchie Edhouse neu Lihao Wen yn yr ail rownd.
Pe bai’n llwyddiannus, byddai’n herio naill ai enillydd y gêm rhwng Fallon Sherrock a Steve Beaton neu Kim Huybrechts yn y drydedd rownd.
Bydd Jonny Clayton yn herio naill ai Keane Barry neu Royden Lam yn yr ail rownd, a phe bai’n ennill honno, byddai’n wynebu Gabriel Clemens yn y drydedd rownd.
Jim Williams a Lewy Williams yw’r Cymry eraill yn y gystadleuaeth, gyda Nick Kenny eisoes wedi colli yn y rowndiau rhagbrofol.
Gerwyn Price
Wrth siarad â golwg360 yr wythnos hon, dywedodd Gerwyn Price o sir Caerffili nad yw e’n “poeni pwy sy’n dod allan o’r het”, fod “y rownd gyntaf bob amser yn un anodd” ond ei fod e “am ganolbwyntio ar fy ngêm fy hun”.
“Beth bynnag sy’n dod ataf fi, fe fydda i’n barod amdano fe,” meddai.
Naill Ritchie Edhouse neu Lihao Wen fydd ei wrthwynebydd cyntaf.
Cyrhaeddodd Edhouse 32 olaf Tlws BDO y Byd yn 2015, cyn ennill Cerdyn Taith y PDC yn 2017. Aeth yn ei flaen i gyrraedd rownd gyn-derfynol Pencampwriaeth Dartiau’r Iseldiroedd yn 2018, ac fe enillodd e gystadlaethau ar y Daith Her yn 2019 a 2020 er mwyn adennill ei gerdyn ar gyfer tymor 2021.
Dyma’r tro cyntaf i Lihao Wen, 38, gyrraedd Pencampwriaeth y Byd, a hynny ar ôl iddo ennill Pencampwriaeth Agored Tsieina yr wythnos ddiwethaf.
Creodd Sherrock hanes ddwy flynedd yn ôl fel y ferch gyntaf ym Mhencampwriaeth y Byd y PDC, gan gyrraedd y drydedd rownd, a bydd hi’n wynebu Steve Beaton yn ei unfed tro ar hugain yn olynol ym Mhencampwriaeth y Byd a’i 31ain tymor yn y gystadleuaeth. Mae Sherrock eisoes wedi cyrraedd rownd 32 y Gamp Lawn eleni, ac mae hi’n mynd o nerth i nerth ymhlith y dynion. Gyda Cherdyn Taith ar gael, bydd ganddi gryn dipyn i anelu ato eleni.
Mae Steve Beaton yn enw cyfarwydd ar lefel ucha’r byd dartiau ers dau ddegawd, ac yntau wedi ennill Meistri’r Byd yn 1993 a Phencampwriaeth Lakeside yn 1996. Ymunodd e â’r PDC yn 2001, gan ennill ei deitl detholion cynta’r flwyddyn honno.
Cyrhaeddodd e rownd gyn-derfynol Pencampwriaeth Agored y Deyrnas Unedig a Champ Lawn y Byd yn 2004, a rownd derfynol Pencampwriaeth Ewrop yn 2009. Enillodd e Bencampwriaeth y Chwaraewyr yn yr Iseldiroedd y flwyddyn honno hefyd.
Cyrhaeddodd e rownd gyn-derfynol y Gamp Lawn yn 2010, a daeth llwyddiant iddo yn yr Almaen yn 2013 a Phencampwriaeth y Chwaraewyr yn 2017.
Bydd enillydd y gêm rhwng Sherrock a Beaton wedyn yn herio Kim Huybrechts o Wlad Belg, un oedd wedi cyrraedd Pencampwriaeth y Byd am y tro cyntaf yn 2012, gan gyrraedd yr wyth olaf. Cyrhaeddodd e rownd derfynol Pencampwriaeth y Chwaraewyr y tymor hwnnw, rownd wyth ola’r Gamp Lawn yn 2014 a’r Uwch Gynghrair yn 2015 ac eto yn 2017.
Gerwyn Price: “Dw i ddim yn poeni pwy sy’n dod allan o’r het”
Gerwyn yn anelu at aros yn rhif un
Jonny Clayton
Mae Jonny Clayton, y Cymro Cymraeg o Bontyberem wedi cael tipyn o dymor eleni, gan ennill pedair o’r prif gystadlaethau ar y gylchdaith.
Bydd e’n herio naill ai Keane Barry neu Royden Lam yn ei gêm gyntaf – dau sy’n ddigon di-brofiad.
Ar ôl ennill yr Uwch Gynghrair a’r Meistri, dywedodd Clayton wrth Golwg mai dod yn bencampwr byd yw ei freuddwyd yn y pen draw.
“Mae honna yn gystadleuaeth massive,” meddai. “Mae sawl un yn mynd i ddod cyn y Nadolig nawr, so fi’n mynd i gymryd pob un fel maen nhw’n dod a trial dodi fy meddwl at y gystadleuaeth nesa’ yn lle meddwl rhy bell ymlaen. Ond obviously mae e yn fy meddwl i ambwyti’r Worlds, so mae e’n mynd i fod yn reid fach eitha’ diddorol fi’n credu.
“Bob tro, fel chwaraewyr dartiau, ry’n ni i gyd yn mynd mas i ennill popeth ni’n gallu. Ry’n ni i gyd yn moyn yr un mawr amser Nadolig. Fi’n chwarae darts da a fi’n gobeithio bod e’n mynd i gadw i fynd.”
Enillodd Keane Barry Feistri Bechgyn y Byd yn 2019 ar ôl colli yn y rownd derfynol y ddau dymor blaenorol. Fe yw’r unig chwaraewr erioed i gyrraedd y rownd derfynol dair gwaith. Aeth yn ei flaen i ennill Pencampwriaeth Ieunctid y Byd yn 2020, flwyddyn ar ôl cymhwyso drwy’r ‘Q School’.
Enillodd Royden Lam Bencampwriaeth Agored Hong Kong yn 2009. Collodd e yn rownd derfynol Pencampwriaeth Agored Japan yn 2010 a bu bron iddo fe gyrraedd Pencampwriaeth y Byd yn 2011 cyn colli’r rownd ragbrofol olaf. Enillodd ei Gerdyn Taith yn 2013, gan gyrraedd Pencampwriaeth y Byd yn 2014. Ar ôl cynrychioli ei wlad yng Nghwpan y Byd sawl gwaith, fe wnaeth e adennill ei Gerdyn Taith yn 2017 a 2018, gan guro Jose de Sousa.
Fyddai Gabriel Clemens ddim yn wrthwynebydd hawdd i Clayton yn y drydedd rownd chwaith, ac yntau wedi cyrraedd 16 olaf Pencampwriaeth y Byd y llynedd, rownd gyn-derfynol Meistri’r Byd yn 2017, a rownd derfynol Meistri’r Almaen yn 2019.
Meistr, pencampwr yr Uwch Gynghrair… a’r byd?
Y Cymry eraill
Mae Lewy Williams o Abertawe’n un i’w wylio yn y dyfodol.
Fe wnaeth e gymhwyso ar gyfer Pencampwriaeth Agored y Deyrnas Unedig yn 2020 ar ôl curo Jose de Sousa, cyn colli yn rownd y 64 olaf. Enillodd ei Gerdyn Taith fis Chwefror eleni, ac ymddangos ar y teledu am y tro cyntaf fis diwethaf wrth gystadlu ym Mhencampwriaeth Ewrop, lle collodd e yn y rownd gyntaf yn erbyn de Sousa.
Bydd Lewy Williams yn herio Toyokazu Shibata, sy’n ymddangos ym Mhencampwriaeth y Byd am y tro cyntaf ar ôl cipio’r lle ar gyfer cymhwyswr rhyngwladol.
Bydd Jim Williams o Lanandras yn herio naill ai Ted Evetts am le yn y rownd nesaf yn erbyn Joe Cullen.
Evetts yw Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd, ac mae Cullen wedi cymhwyso ar gyfer rownd gyntaf Pencampwriaeth y Byd naw gwaith, gan ennill dwy o’r gemau. Cyrhaeddodd e rownd yr 16 olaf y llynedd.
Mae Nick Kenny hefyd drwodd am yr ail flwyddyn yn olynol fel cymhwysydd deilydd Cerdyn Taith, a hynny ar ôl buddugoliaethau dros Gordon Mathers (7-3), Michael Unterbuchner (6-2), Matthew Edgar (6-5) a Brett Claydon (6-4).