Mae Gemma Grainger yn dweud bod “disgwyliadau yn uchel iawn” ymhlith carfan bêl-droed merched Cymru wrth iddyn nhw baratoi i herio Ffrainc yn Llydaw.

Y gêm heno (nos Fawrth, Tachwedd 30) yw’r tro cyntaf iddyn nhw chwarae yn erbyn arweinwyr Grŵp I, ac o bosib yr her fwyaf yn ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd 2023 hyd yn hyn.

Mae’r Ffrancwyr wedi ennill pob un o’u gemau hyd yn hyn, gyda chanlyniadau awdurdodol a chan gyrraedd ffigyrau dwbl yn erbyn Gwlad Groeg ac Estonia.

Ond mi fydd y gêm yn Guingamp yn her i’r gwrthwynebwyr hefyd, gan mai Cymru yw’r tîm uchaf o ran detholion iddyn nhw ei wynebu.

Daw Cymru i mewn i’r gêm yn dilyn buddugoliaeth 5-0 dros Wlad Groeg yn Llanelli nos Wener (Tachwedd 26).

Roedd buddugoliaethau i Ffrainc a Slofenia ar yr un noson yn ddigon i gadw’r pwysau ar Gymru, ond gan nad oes yna anafiadau na gwaharddiadau allweddol i’r garfan, bydd eu hwyliau’n uchel.

‘Does dim dadlau mai nhw yw’r ffefrynnau’

Siaradodd Gemma Grainger, rheolwr Cymru, mewn cynhadledd i’r wasg ddoe (dydd Llun, Tachwedd 29), gan ddweud eu bod nhw’n llwyr ymwybodol o ddisgwyliadau eraill.

“Does dim dadlau nad nhw yw’r ffefrynnau,” meddai.

“Mae’r disgwyliadau ohonom ni y tu allan i’r garfan yn isel, ond mae ein disgwyliadau ni yn uchel iawn o ran y perfformiad rydyn ni’n gobeithio ei gael.

“Mae’n gyfle gwych inni weld lle rydyn ni fel tîm ac mae’n gyfle inni fynd allan yna a pharhau’r rhediad rydyn ni wedi ei gael.

“Pam ddylen ni ddim gwneud hynny? Pam ddylen ni newid hynny yn erbyn Ffrainc?

“Ar ddiwedd y gêm hon, rydyn ni’n mynd i wybod llawer am le rydyn ni fel tîm.”

Fel mae’n sefyll

Pe bai Cymru’n llwyddo i gael gêm gyfartal heno, byddan nhw’n parhau i fod yn ail gyda 14 o bwyntiau.

Does dim modd i Gymru ddisgyn o’r ail safle yn y gêm heno oherwydd y canlyniad oddi cartref yn erbyn Slofenia, sy’n golygu y byddai cyrraedd gemau ail-gyfle Cwpan y Byd 2023 yn parhau i fod yn nwylo’r Cymry waeth beth yw’r canlyniad.

Er hynny, pe baen nhw’n colli’r gêm, a bod Slofenia yn trechu Gwlad Groeg, yna byddai’r ddwy wlad sy’n ail a thrydydd ar yr un nifer o bwyntiau.