Mae mam o Ben-y-bont ar Ogwr wedi pledio’n ddieuog i lofruddio ei mab ym mis Awst.

Bu farw Reid Steele, a oedd yn ddyflwydd, yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ar Awst 12, ddiwrnod ar ôl iddo gael ei ganfod ag anafiadau difrifol.

Wrth fynd gerbron Llys y Goron Caerdydd drwy gyswllt fideo, fe wnaeth Natalie Steele, sy’n 31 oed ac yn dod o ardal Broadlands, lefain wrth gyflwyno ei phle.

Bydd hi’n cael ei chadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddi fynd gerbron llys eto ar Chwefror 25.

Fe fydd y Barnwr Michael Fitton yn cadarnhau dyddiad dechrau’r achos yn nes ymlaen.

Reid Steele

Enwi bachgen dwy oed fu farw ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Mae dynes 31 oed wedi’i harestio ar amheuaeth o lofruddio Reid Steele o Broadlands yn y dref