Mae’r pêl-droediwr Ray Kennedy, a dreuliodd gyfnod gydag Abertawe ar ddechrau’r 1980au, wedi marw’n 70 oed.

Mae’n cael ei adnabod yn bennaf fel chwaraewr gyda Lerpwl ac Arsenal, ond fe chwaraeodd e ran yn nhaith yr Elyrch o’r adran isaf i’r adran uchaf o dan reolaeth John Toshack.

Chwaraeodd e 59 o weithiau i’r clwb, gan sgorio dwy gôl rhwng Ionawr 1982 a Thachwedd 1983.

Roedd e hefyd yn aelod o’r tîm enillodd Gwpan Cymru ddwywaith yn olynol, cyn gadael ar ôl i’r Elyrch ostwng ar ddiwedd tymor 1982-83.

Aeth yn ei flaen i Hartlepool, ac fe gafodd e gyfnod hefyd yn chwaraewr-reolwr ar dîm Pezoporikos yng Nghyprus.

Llwyddiant

Enillodd e Gwpan Ewrop dair gwaith a’r gynghrair bum gwaith gyda Lerpwl ar ôl symud o Arsenal yn 1974.

Yn Arsenal, roedd e’n aelod o’r tîm enillodd y ’dwbl’ – y gynghrair a’r gwpan – yn 1971, gan dreulio chwe thymor gyda’r clwb.

Sgoriodd e’r gôl dyngedfennol oddi cartref yn rownd gyn-derfynol Cwpan Ewrop yn erbyn Bayern Munich.

Daeth ei gôl gyntaf dros Loegr yn erbyn Cymru fis Mawrth 1976, a sgoriodd e ddwy arall yn ystod ei yrfa.

Ond cafodd e ddiagnosis o glefyd Parkinson yn 1984, a chafodd gêm dysteb rhwng Arsenal a Lerpwl ei chynnal yn 1991 ar ôl iddo orfod gwerthu ei holl fedalau, a’i 17 cap Lloegr, i dalu am driniaeth.

Mae clybiau Arsenal, Lerpwl, Everton ac Abertawe ymhlith y rhai sydd wedi talu teyrnged iddo fe, ynghyd â llu o’i gyd-chwaraewyr.

Mae elusen Parkinson’s UK hefyd wedi talu teyrnged iddo fe, gan ddweud iddo “siarad yn onest am yr heriau wynebodd e” a’i fod e “wedi ysbrydoli cynifer o bobol i siarad yn agored am eu bywydau eu hunain â chyflwr Parkinson”.