Colli o 2-0 wnaeth tîm pêl-droed merched Cymru yn erbyn Ffrainc yn Llydaw heno (nos Fawrth, Tachwedd 30), er iddyn nhw frwydro’n ddewr.

Dyma’r tro cyntaf i dîm Gemma Grainger golli yn eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2023.

Y Ffrancwyr sydd ar frig y grŵp, ac roedd perfformiad merched Cymru gystal â’u gwrthwynebwyr am gyfnodau helaeth, yn enwedig yn yr amddiffyn wrth i’r tîm cartref ymosod yn gyson.

Roedd yn rhaid i dîm Gemma Grainger fod ar eu gorau yn Guingamp, ond doedden nhw ddim yn gallu atal Ffrainc rhag mynd ar y blaen yn hwyr yn yr hanner cyntaf, wrth i ergyd rymus Kadidiatou Diani eu rhoi nhw ar y blaen wrth i Gymru golli ffocws am eiliad cyn yr egwyl.

Roedd Cymru i lawr i ddeg chwaraewr pan gafodd Kayleigh Green ei hanfon o’r cae am ail gerdyn melyn ar ôl 69 munud – yr ail waith i hynny ddigwydd mewn pum gêm ragbrofol.

Er gwaetha’r fantais o ran niferoedd i Ffrainc, parhau i chwilio am gôl wnaeth Cymru a tharodd Fishlock y postyn wrth geisio’r gôl hollbwysig.

Ond Selma Bacha rwydodd i Ffrainc â chwip o ergyd ar ei throed chwith yn eiliadau ola’r gêm i’w gwneud hi’n 2-0.

Gorffen yn ail yw nod Cymru yn eu grŵp, yn ôl pob tebyg, ac roedd arwyddion cadarnhaol heno wrth iddyn nhw ddangos eu doniau yn erbyn y tîm sy’n bumed yn y byd ar hyn o bryd, ac a oedd wedi sgorio saith gôl ar gyfartaledd yn eu pum gêm gyntaf.

Fe wnaeth Groeg roi cymorth i Gymru hefyd, wrth iddyn nhw orffen yn gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Slofenia, sy’n golygu bod gan dîm Gemma Grainger fantais o ddau bwynt yn y grŵp wrth geisio gorffen yn ail.