Mae cyn-amddiffynnwr Cymru a Chaerdydd, Phil Dwyer, wedi marw yn 68 oed.

Treuliodd 16 mlynedd gyda Chaerdydd ac ef sy’n dal record y clwb am y mwyaf o ymddangosiadau, ar ôl chwarae 471 o gemau i’r Adar Gleision.

Roedd wedi ymuno â’r clwb yn 1969 a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Leyton Orient dair blynedd yn ddiweddarach.

Enillodd 10 cap dros Gymru rhwng 1978 a 1979 gan sgorio dwy gôl, gan gynnwys un ar ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Iran.

Yn ystod ei gyfnod ym Mharc Ninian roedd yn rhan o dîm Caerdydd a ddaeth yn ail yn y Drydedd Adran yn 1976 a 1983.

Ar ôl dod â’i yrfa chwarae i ben gyda chyfnod yn Rochdale, daeth yn swyddog heddlu gyda Heddlu De Cymru.

Mewn datganiad dywedodd yr Adar Gleision: “Mae ein meddyliau yn mynd allan i ffrindiau a theulu Phil ar yr adeg hynod drist yma.

“Ar eu rhan, gofynnwn i’w preifatrwydd gael ei barchu.”