Mae disgwyl i glwb Rygbi Caerdydd chwarae eu dwy gêm gyntaf yng Nghynghrair Pencampwyr Heineken gyda mwyafrif y chwaraewyr o’r academi.

Bydd holl garfan a staff y rhanbarth sydd ddim yn hunanynysu yn dychwelyd o Dde Affrica yfory (dydd Iau, 2 Rhagfyr).

Ar ôl dychwelyd, bydd rhaid i’r 42 unigolyn ynysu mewn gwesty cwarantîn yn Lloegr am 10 diwrnod, tra bod y chwe aelod arall o’r garfan sydd wedi profi’n bositif yn aros yn Cape Town i ynysu.

Mae hynny’n golygu y bydd 32 chwaraewr, ac 16 aelod o staff, yn methu’r gemau Cynghrair y Pencampwyr yn erbyn Toulouse a Harlequins ar 11 ac 18 Rhagfyr.

Ar gyfer y gêm gyntaf yn erbyn Toulouse ym Mharc yr Arfau, bydd y 48 unigolyn yn parhau i ynysu.

Er y byddan nhw wedi gorffen y cyfnod cwarantîn erbyn 12 Rhagfyr, mae’n debyg na fyddan nhw’n ddigon ffit i chwarae’r gêm yn erbyn Harlequins yn Llundain ar 18 Rhagfyr.

Bydd y clwb felly yn cystadlu’r gemau hynny gyda chwaraewyr o’r academi a chwaraewyr wnaeth ddim teithio i Dde Affrica, sy’n cynnwys Josh Adams, Seb Davies, Willis Halaholo, Ellis Jenkins, Dillon Lewis, a Tomos Williams.

Gair gan y cyfarwyddwr

Dywedodd cyfarwyddwr Rygbi Caerdydd, Dai Young: “Fydd neb o’r daith i Dde Affrica yn gymwys i wynebu Toulouse a Harlequins ond mae gennyn ni nifer o chwaraewyr rhyngwladol yn ôl adref a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i chwarae’r gemau hyn.

“Bydd y tîm yn cynnwys y chwaraewyr rhyngwladol sydd heb ddod gyda ni a rhai o’n chwaraewyr academi gorau.

“Rwy’n hyderus y byddan nhw’n gwneud y clwb yn falch ond mae angen cefnogaeth Caerdydd i gyd arnom ni.

“Gruff Rees fydd yn arwain y tîm a bydd Thomas Rhys Thomas a Richie Rees, a arhosodd yng Nghaerdydd i hyfforddi’r rhai sydd ddim yn teithio, yn ei gynorthwyo.

“Rwy’n gwybod y byddan nhw a’r bechgyn eisiau chwarae ar eu gorau ar gyfer y bechgyn sydd mewn cwarantin.

“Byddwn ni gyd yn gwylio o’n hystafelloedd, a bydd yn hwb gwirioneddol i ni os gwelwn ni Barc yr Arfau yn orlawn.

“Byddan nhw’n cefnogi’r bechgyn, rhai ohonyn nhw ar eu pennau eu hunain, a’r clwb yn ystod y cyfnod mwyaf anodd a heriol dw i wedi’i brofi fel cyfarwyddwr rygbi.”

Gofidion am iechyd a lles carfan a staff Rygbi Caerdydd

Roedd y garfan i fod i ddychwelyd ar Dachwedd 28, ond wnaeth hynny ddim digwydd oherwydd achosion positif o Covid-19

Dau chwaraewr Rygbi Caerdydd yn profi’n bositif am Covid-19

Mae o leiaf un ohonyn nhw’n ymwneud â’r amrywiolyn newydd Omicron