Mae Andrew Salter, troellwr amryddawn tîm criced Morgannwg, wedi canu clodydd un o hoelion wyth y clwb ar ôl llofnodi cytundeb dwy flynedd newydd.
Mae Salter o Sir Benfro wedi cael dwy flynedd arall, gan ddweud bod Alan Jones – sydd wedi bod yn gapten, yn brif hyfforddwr a llywydd y sir – wedi chwarae rhan allweddol yn ei ddatblygiad fel cricedwr ifanc.
Mae e eisoes wedi cipio 180 o wicedi ac wedi sgorio 2,220 o rediadau i’r sir ar ôl codi drwy rhengoedd y clwb, ac roedd e’n aelod o’r tîm gododd dlws Cwpan Royal London eleni ar ôl i Forgannwg guro Durham o 58 rhediad yn Trent Bridge.
Yn y gêm honno, sgoriodd e 33 a chipio tair wiced am 42.
“Mae Morgannwg wedi chwarae rhan enfawr yn fy mywyd, ac mae’n fraint ac yn anrhydedd dweud y bydda i yn y clwb am ddwy flynedd arall,” meddai’r chwaraewr 28 oed.
“Mae hi’n teimlo fel ddoe pan oeddwn i’n ymarfer gydag Alan Jones, un o’r mawrion, lle’r oedd e’n dweud wrtha i’n 11 oed nad oedd rheswm pam nad oeddwn i’n gallu cynrychioli’r sir.
“Enill Cwpan Royal London [eleni] yw uchafbwynt fy ngyrfa – mae’n anodd bod yn rhesymegol o ran yr hyn roedd e’n ei olygu i fi a’r tîm, ond mae’n sicr wedi dangos beth allwn ni ei wneud ac mae’n gwneud y tymhorau i ddod yn rhai cyffrous iawn.
“Roedd hi wir yn foment arbennig cael gwobr seren y gêm a pherfformio i’n helpu ni i groesi’r llinell.
“Yn y tymhorau sydd i ddod, dw i’n llygadu’r cyfle i gyfrannu ym mhob fformat i’r lefel dw i’n gwybod y galla i ei wneud, a chasglu rhagor o dlysau i’r clwb.”
Tom Cullen
Ymunodd y wicedwr Tom Cullen, sy’n enedigol o Awstralia, â’r clwb yn 2017 ar ôl chwarae i Brifysgolion Caerdydd yr MCC.
Mae e wedi chwarae mewn 16 o gemau dosbarth cyntaf, ac fe chwaraeodd e ym mhob gêm yng Nghwpan Royal London wrth i Forgannwg godi’r tlws – chwaraeodd e ran allweddol yn y fuddugoliaeth dros Essex yn y rownd gyn-derfynol, gyda phartneriaeth sylweddol gyda Joe Cooke, seren y gêm.
“Dw i’n falch iawn o gael llofnodi cytundeb newydd gyda Morgannwg,” meddai’r chwaraewr 29 oed.
“Mae Caerdydd yn teimlo fel ail gartref a dw i’n ddiolchgar am y cyfle i barhau i wthio’r grŵp yma tuag at ragor o lwyddiant.
“Dw i’n credu’n gryf fod gan y garfan hon y gallu i herio am ragor o dlysau yn y dyfodol agos, a gobeithio y bydda i’n cyfrannu at hynny.
“Dw i wedi cyffroi’n fawr i weld beth allwn ni ei gyflawni gyda’n gilydd fel grŵp y flwyddyn nesaf.”
Jamie McIlroy
Chwaraeodd Jamie McIlroy, y bowliwr cyflym llaw chwith 26 oed o Lanfair-ym-Muallt, ei gêm gyntaf i Forgannwg eleni, a daeth ei wiced gyntaf mewn gemau dosbarth cyntaf yn y gêm gyntaf honno yn erbyn Swydd Efrog.
“Cafodd Jamie McIlroy flas ar yr hyn yw’r lefel dosbarth cyntaf ac fel bowliwr sêm llaw chwith, mae e’n cynnig rhywbeth ychydig yn wahanol,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ei weld e’n datblygu dros y flwyddyn nesaf.
“Mae Andrew [Salter] yn gricedwr aml-ddimensiwn sy’n gallu chwarae ym mhob un o’r tri fformat ac mae e’n cynnig digon o opsiynau i ni wrth ddewis y tîm.
“Mae e wedi cael cryn hyder o rownd derfynol Cwpan Royal London, ac roedd hynny’n amlwg yn ei berfformiadau tua diwedd y tymor pan fowliodd e gyda chryn dipyn o gysondeb a sgil.
“Mae e’n rhan bwysig o’r ystafell newid ac mae e wedi dechrau derbyn rôl fel arweinydd yn y tîm.
“Mae Tom [Cullen] wedi gwneud gwaith gwych pryd bynnag mae e wedi cael cyfle i chwarae dros y tymhorau diwethaf, ac fe ddangosodd e gymaint o chwaraewr da yw e yn ystod y gystadleuaeth 50 pelawd.
“Mae e’n gricedwr cystadleuol iawn a’r union fath o gymeriad rydyn ni ei eisiau yn y clwb.”