Mae cadeirydd rhanbarth rygbi’r Scarlets yn galw ar benaethiaid cystadleuaeth Ewropeaidd i ailystyried eu safiad ar ad-drefnu gemau.
Byddai’n rhaid i’r rhanbarth idlio’u gêm yn erbyn Bryste ar Ragfyr 11 os nad oes modd iddyn nhw chwarae drannoeth y diwrnod pan fo disgwyl i 32 o chwaraewyr gwblhau eu cyfnod cwarantîn mewn gwesty yn ninas Belffast ar ôl dychwelyd o Dde Affrica.
Does gan drefnwyr Cwpan Pencampwyr Heineken ddim bwriad gohirio gemau yn sgil yr amrywiolyn newydd o Dde Affrica a thrafferthion teithio i rai clybiau.
Caerdydd
Bydd y gystadleuaeth yn dechrau eleni ar ddydd Gwener, Rhagfyr 10, ac mae tîm rygbi Caerdydd yn parhau i geisio dychwelyd o Dde Affrica ar ôl i gyfyngiadau teithio gael eu cyflwyno ar y wlad.
Mae eu gobeithion o allu dychwelyd yn ôl i Gymru dan amheuaeth oherwydd achosion positif o Covid-19, gan gynnwys un achos tybiedig o’r amrywiolyn Omicron.
Byddan nhw’n wynebu deg diwrnod o ynysu pan fyddan nhw’n llwyddo i ddychwelyd o’u gwersyll yn Cape Town, lle roedden nhw’n paratoi i chwarae dau o dimau De Affrica cyn i’r gemau hynny gael eu gohirio.
Scarlets
Does dim disgwyl i’r chwaraewyr sydd wedi bod yn Ne Affrica fod ar gael ar gyfer gêm gynta’r Scarlets am na fyddan nhw wedi ymarfer ers pythefnos ar ôl iddyn nhw fynd i gwarantîn.
Dim ond 14 chwaraewyr sy’n weddill wedyn – saith aelod o’r brif garfan a saith chwaraewr ar gytundebau datblygu, sy’n golygu y byddai angen iddyn nhw ddod o hyd i naw chwaraewr arall i gwblhau’r garfan.
Fel arall, byddai’r Scarlets yn colli’r gêm o 28-0 gyda’r pum pwynt yn mynd i Fryste.
Ond mae disgwyl i Rygbi Caerdydd ddewis chwaraewyr gwahanol i’r rhai fuodd yn Ne Affrica – yn eu plith mae chwe chwaraewr rhyngwladol oedd heb deithio gyda’r garfan ar gyfer y gemau yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig a gafodd eu canslo.
“Pe baen ni’n chwarae yn erbyn Bryste heb y bobol sydd yn Ulster ar hyn o bryd, mae pedwar neu bump o safleoedd lle does gyda ni ddim cyrff i lenwi’r safle hwnnw,” meddai Simon Muderack.
“Dydyn ni ddim yn dod allan o gwarantîn tan Ragfyr 10 ac mae llawer o’r bois yn Belffast sydd heb chwarae gêm o rygbi ers Hydref 22.
“Mae’n rhaid i EPCR edrych ar les y chwaraewyr yn fan hyn.
“Heb y 32 o chwaraewyr mewn cwarantîn, byddai’n rhaid i ni chwarae gyda chwaraewyr datblygu a chwaraewyr yr academi – rhai ohonyn nhw yn syth o’r ysgol yn eu tymor cyntaf o rygbi fel oedolion – yn ogystal â chwaraewyr lled-broffesiynol sy’n cyfuno’u hymrwymiadau rygbi gyda gwaith llawn amser, a’u rhoi nhw yn erbyn tîm o safon Bryste.
“Fyddai hynny ddim yn dda o ran hygrededd y gystadleuaeth nac i’r unigolion hynny.
“Mae cael ein cosbi [am geisio dewis y tîm gorau posib] ddim yn eistedd yn iawn gyda fi, ac mae angen i ni ddod o hyd i ateb teg oherwydd dydy ildio’r gêm am reswm y tu allan i’n rheolaeth ni ddim yn iawn.
“Yn ddelfrydol, bydden ni wedi cael eithriad sydd wedi cael ei wneud yn y gorffennol fel y byddai’r tîm, wrth barhau i ynysu, wedi gallu parhau i ymarfer a pharatoi ar gyfer gemau sydd i ddod.”
Datganiad
Mae’r Scarlets wedi cyhoeddi datganiad pellach ar eu gwefan.
“Gyda Llywodraeth Cymru’n dyfarnu fod rhaid i’r garfan a deithiodd i Dde Affrica gwblhau’r cyfnod cwarantîn o 10 diwrnod yn llawn mewn gwesty cwarantîn y tu allan i ddinas Belffast, mae’r Scarlets yn annog trefnwyr y gystadleuaeth Ewropeaidd, EPCR, i ailystyried eu safiad ar ad-drefnu gemau,” meddai’r rhanbarth.