Mae un o chwaraewyr Rygbi Caerdydd wedi gwneud sylwadau beirniadol am Lywodraeth Cymru a’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig wrth i’r rhanbarth barhau i fod yn gaeth yn Ne Affrica.
Oherwydd bod achosion positif o Covid-19 ymysg y garfan, doedd ganddyn nhw ddim hawl i deithio adref, ond bydd y rhai sydd heb ddal y feirws yn cael dychwelyd heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 2), ar yr amod fod y 42 unigolyn yn ynysu mewn gwesty penodol yn Lloegr am ddeg diwrnod.
Yn y cyfamser, bydd y chwe unigolyn arall sydd wedi profi’n bositif yn aros yn Cape Town i ynysu, sy’n golygu bydd 48 o garfan a staff i gyd yn methu’r gêm agoriadol Cwpan y Pencampwyr yn erbyn Toulouse ar Ragfyr 11.
Fe ddangosodd y cefnwr Matthew Morgan ei rwystredigaeth mewn post ar Twitter, sydd bellach wedi cael ei ddileu.
Dywedodd fod cynghrair y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn ‘llanast’ a chyfeirio at Lywodraeth Cymru fel ‘jôc’, gan ymbil arnyn nhw i gael y clwb yn ôl adref.
Roedd yn beio’r gynghrair am adael i dimau deithio i Dde Affrica cyn gohirio’r gyfres honno o gemau ar y funud olaf.
Roedd disgwyl i Gaerdydd herio’r Lions a’r Stormers ar Dachwedd 28 a Rhagfyr 4, tra bod y Scarlets hefyd allan yn Cape Town er mwyn chwarae’r Sharks a’r Bulls ar Dachwedd 27 a Rhagfyr 3, ond cafodd y gemau hynny i gyd eu gohirio yn dilyn peryglon yr amrywiolyn Omicron.
Llwyddodd y Scarlets i hedfan i Iwerddon ddydd Llun (Tachwedd 29), ac maen nhw bellach yn ynysu mewn gwesty yn Belffast, sy’n debygol o effeithio ar eu gemau Ewropeaidd nhw hefyd.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud nad ydyn nhw’n gwneud unrhyw eithriadau i chwaraewyr rygbi, er gwaethaf y galwadau diweddar gan rai i’w dychwelyd nhw’n ddiogel.
Yn ôl cyfyngiadau presennol y Llywodraeth, mae’n anghyfreithlon i unrhyw un sydd wedi bod mewn gwlad ‘rhestr goch’ yn y deg diwrnod diwethaf ddod i mewn i Gymru yn uniongyrchol.
Mae Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, hefyd wedi dweud nad oes gwesty ar gael yng Nghymru i chwaraewyr a staff Rygbi Caerdydd nac unrhyw un arall.
Dyna pam fod rhaid i chwaraewyr Caerdydd a’r Scarlets ynysu mewn gwestai yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Cefnogaeth Aelod Seneddol
Yn dilyn y pryderon diweddar am iechyd meddwl y chwaraewyr rygbi sy’n gaeth yn Ne Affrica, fe wnaeth Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda, gyfeirio at eu hachos yn Nhŷ’r Cyffredin.
Bu’n cwestiynu a oedd modd gwneud mwy i’w dychwelyd nhw’n ddiogel i’r Deyrnas Unedig.
“Mae 42 o chwaraewyr rygbi Cymru yn sownd yn Ne Affrica ar hyn o bryd, gan gynnwys un unigolyn o fy etholaeth i,” meddai.
“Maen nhw mewn sefyllfa anodd oherwydd bod rhai ohonyn nhw wedi cael Covid erbyn hyn.
“Efallai y bydd yn rhaid iddyn nhw ynysu am ddeg diwrnod yn Ne Affrica, ac ynysu am ddeg diwrnod arall ar ben hynny yn y Deyrnas Unedig.
“Mae’n amlwg fod cost sylweddol i hynny, ond yn bwysicach fyth, mae cost i’w hiechyd meddwl hefyd.
“Tybed a oes mwy y gallwn ni ei wneud i’w helpu i ddod adref?”