Mae’r cynllun sy’n rhoi blaenoriaeth i bobol fregus a chlinigol agored i niwed wrth drefnu amser i dderbyn eu siopa wedi dod i ben yng Nghymru.
Fydd y rhestr o bobol sy’n ynysu am resymau iechyd ddim bellach yn cael i rannu ag archfarchnadoedd o hyn ymlaen.
Mewn datganiad, dywedodd Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, fod “gostyngiad sylweddol” wedi bod yn y niferoedd sy’n defnyddio’r system.
Bydd pobol sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn cael eu symud i drefniadau cyflenwi rheolaidd, meddai.
Roedd y mesur yn rhan o becyn i amddiffyn pobol fregus, a gafodd ei weithredu ar ddechrau’r pandemig y llynedd.
Daeth y cynllun i ben yn Lloegr haf y llynedd.
Daw hyn yng nghanol ansicrwydd presennol ynglŷn ag amrywiolyn newydd Omicron ac effaith hynny ar gyfyngiadau dros y Nadolig.
Ddydd Mawrth (Tachwedd 30), dywedodd Eluned Morgan ei bod hi’n rhy gynnar i ddweud a fydd cyfyngiadau dros yr ŵyl.
Methiannau’r system
Fis Awst, siaradodd Hazel Morgan â golwg360 am brofiad ei merch Brodie, 17, tra yn cysgodi yn ystod y pandemig.
Bu’r cyfnodau clo yn brofiad “gwarthus” oherwydd diffyg cyfathrebu Llywodraeth Cymru ac archfarchnadoedd ar gyfer rhestrau blaenoriaeth i gael nwyddau o siopau, meddai.
“Fe wnaethon ni wir gael hi’n anodd cael mynediad at restrau siopa blaenoriaeth yn ystod y pandemig ac roedd y gwasanaeth hwnnw’n hanfodol i ni er mwyn ei chadw hi’n ddiogel,” meddai wedyn.
“Doedden ni ddim yn gallu mynd i’r siopau i brynu bwyd, felly roedd archfarchnadoedd fod i gynnig rhestrau blaenoriaeth os oeddech ar restr cysgodi’r llywodraeth.
“Ond doedden ni ddim yn gallu cael gafael ar yr archfarchnadoedd ar y rhestrau hynny.”
Diogelu data
Yn ôl cyfreithiau diogelu data, mae’n rhaid i’r llywodraeth ddileu’r wybodaeth bersonol pan nad yw’n angenrheidiol mwyach, a dywedodd Eluned Morgan y bydd y Llywodraeth yn gwneud hynny dros y dyddiau nesaf.
Fydd y rhestr o gleifion ddim bellach yn cael ei rhannu gyda sefydliadau eraill, fel cynghorau, cwmnïau dŵr ac archfarchnadoedd.
“Ac eithrio’r niferoedd bach o bobol sy’n defnyddio slotiau siopa â blaenoriaeth ar hyn o bryd, a fydd nawr yn cael eu symud i drefniadau dosbarthu rheolaidd gan fanwerthwyr bwyd, ni fydd unigolion ar y rhestr cleifion gwarchod yn gweld unrhyw newidiadau uniongyrchol o ganlyniad i’r newid hwn i rannu data,” meddai.
Ychwanegodd fod y capasiti ar gyfer dosbarthu nwyddau yn y cartref wedi cynyddu’n sylweddol ar draws yr holl fanwerthwyr bwyd mawr “ac rydym wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y bobol ar y rhestr cleifion gwarchod sy’n defnyddio slotiau siopa â blaenoriaeth”.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae manwerthwyr wedi cael sicrwydd fod ganddyn nhw’r gallu i ateb y galw fel rhan o’r cwrs busnes arferol.