Mae Pete Wishart, arweinydd yr SNP yn Nhŷ’r Cyffredin, yn dweud bod Albanwyr eisiau annibyniaeth ac nid “y carthbwll llwgr, slebogaidd hwn” wrth gyfeirio at San Steffan.

Daw ei sylwadau wrth ymateb i bôl piniwn arall sy’n awgrymu bod mwyafrif o blaid annibyniaeth i’r wlad, saith mlynedd ar ôl y refferendwm aflwyddiannus.

“Mae pobol yr Alban yn edrych ar y carthbwll llwgr, slebogaidd hwn a dydyn nhw ddim yn hoffi’r hyn maen nhw’n ei weld,” meddai.

“Maen nhw’n dod i benderfyniad yn gyflym iawn ei bod hi’n bryd mynd fel cath i gythraul o’r lle hwn.”

Ymateb y Ceidwadwyr

Ond mae Jacob Rees-Mogg wedi codi amheuon am ddymuniad Albanwyr a hygrededd polau piniwn.

“Mae e eisiau mynd yn ôl ac ymlaen rhwng polau piniwn, a dw i’n nodi nad yw cefnogwyr yr SNP hyd yn oed yn credu bod cael refferendwm ar annibyniaeth yn bwysig iawn,” meddai.

Daeth pôl piniwn i’r casgliad ym mis Ebrill nad oedd ennill annibyniaeth yn brif flaenoriaeth i’r rhan fwyaf o Albanwyr.

“Dw i’n credu eu bod nhw eisiau gweld Llywodraeth yr SNP yn yr Alban yn bwrw iddi i redeg yr Alban yn iawn a gwneud i’r gwasanaeth iechyd weithio ac adeiladu ffyrdd ac ymdrin â’r hol broblemau maen nhw’n methu mynd i’r afael â nhw’n benodol,” meddai wedyn.