Mae trigolion mewn rhai ardaloedd yng Nghaerdydd wedi cael pythefnos yn unig o rybudd am newidiadau sylweddol posib i’r drefn ailgylchu.
Mewn cyfarfod ddydd Iau, Rhagfyr 16, mae disgwyl i’r Cyngor gymeradwyo cynllun peilot sydd am orfodi miloedd o bobol i wahanu gwydr, plastig a phapur wrth ailgylchu.
Bydd 4,000 o aelwydydd yn Llandaf, Radyr, Pentwyn a Trowbridge yn cael eu heffeithio gan y newid, a fydd yn digwydd am chwe mis o Ionawr.
Pe bai’n llwyddiannus, gall y cynllun gael ei weithredu yn barhaol ac ym mhob ardal o’r ddinas, gan gefnu ar y system bresennol o roi pob deunydd ailgylchu mewn un bag yn unig.
Y cyfraddau gwaethaf yng Nghymru
Mae’n debyg fod gwahanu deunyddiau yn allweddol wrth wella cyfraddau ailgylchu Caerdydd – y gwaethaf yng Nghymru ar hyn o bryd.
Er hynny, mae cyfraddau’r brifddinas yn well na rhai dinasoedd mawr eraill ledled y Deyrnas Unedig.
“Wrth gymharu’r gyfradd ailgylchu a chompostio yng Nghaerdydd â dinasoedd rhanbarthol mawr eraill y Deyrnas Unedig, mae ein ffigurau’n rhagorol,” meddai’r Cynghorydd Michael Michael, yr aelod cabinet sy’n gyfrifol am ailgylchu,” meddai’r Cynghorydd Michael Michael, yr aelod o’r cabinet sy’n gyfrifol am ailgylchu.
“Maen nhw’n rhywbeth y dylen ni i gyd fod yn falch ohono, yn enwedig ein trigolion, sy’n chwarae rhan bwysig yn ein helpu i gyflawni’r niferoedd hyn.
“Fodd bynnag, yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae ein cyfradd ailgylchu wedi gwastatáu ac mae’n rhaid i ni nawr edrych ar ffyrdd o sicrhau bod y nifer hwnnw’n cynyddu unwaith eto.”
Y llynedd, roedd 55.8% o wastraff cartref yng Nghaerdydd yn cael ei ailgylchu, o’i gymharu â’r cyfartaledd Cymreig o 65.4%.
Mae gan y Cyngor darged o gyrraedd 64% cyn gynted ag sy’n bosib, yn ogystal â tharged o 70% erbyn 2024-25.
Yn ystod y pandemig, fe wnaeth ffigyrau’r ddinas ar gyfer ailgylchu ostwng – ar ôl i’r gyfradd fod yn 59.2% yn 2018 a 58.1% yn 2019.
Mae’n debyg mai’r cyfyngiadau ar weithwyr mewn cyfleusterau ailgylchu oedd yn gyfrifol am hyn.
System newydd
Pe bai’r cynllun yn cael ei gymeradwyo, byddai’r trigolion sy’n rhan o’r treialon yn derbyn sach las ar gyfer papur a chardfwrdd, sach goch ar gyfer metelau a phlastigion, a chadi glas ar gyfer poteli a jariau, a bydd y Cyngor yn cyhoeddi mwy o fanylion erbyn mis Ionawr.
Yn ôl y Cynghorydd Michael Michael, bydd hyn yn eu galluogi i weld a yw gweithredu system gasglu wahanol yn eu galluogi nhw gynyddu’r gyfradd ailgylchu a lleihau nifer y gwastraff “llygredig” sy’n cael eu rhoi mewn bagiau ailgylchu.
“Er bod ailgylchu cymysg yn hawdd – hynny ydy gosod pob eitem sy’n gallu cael ei ailgylchu i mewn i un bag gwyrdd fel rydyn ni’n gwneud nawr – mae maint y gwastraff llygredig (sylweddau sydd yn methu â chael ei ailgylchu) rydyn ni’n ei dderbyn yn rhy uchel.”
Dim dirwyon
Er eu bod nhw wedi methu targedau, mae Llywodraeth Cymru yn dweud na fydd Caerdydd yn derbyn dirwy am fethu targedau ailgylchu.
“Mae’r Gweinidog wedi penderfynu peidio â gosod dirwy i Gyngor Caerdydd oherwydd yr effaith y gall hyn ei gael ar wasanaethau allweddol wrth iddyn nhw ddelio â chyfyngiadau ariannol eraill yn sgil y pandemig,” meddai llefarydd.
“Yn y cyfamser, mae Cyngor Caerdydd wedi penderfynu gweithredu ar unwaith i wella eu perfformiad, gan gynnwys gwneud newid i ganolfannau ailgylchu, ac ymrwymo i gyflwyno strategaeth a chynllun gweithredu newydd.
“Bydd hyn yn amlinellu sut maen nhw’n bwriadu gwella ac ymestyn gwasanaethau ailgylchu yn y ddinas.”