Mae Aelodau o’r Senedd wedi pleidleisio o blaid mesurau i fynd i’r afael â dyled aelwydydd ledled Cymru y gaeaf hwn.

Roedd Sioned Williams, llefarydd cydraddoldeb Plaid Cymru, wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i atal dyled ac ar San Steffan i fynd i’r afael â chostau byw.

Fe basiodd y cynnig, a gafodd ei gyflwyno gan Blaid Cymru, o 40 i 14.

Daw hyn yn dilyn ymchwiliad gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol oedd yn dweud y bydd fwyfwy o bobol yn mynd i ddyled eleni er mwyn cwrdd â chostau byw dyddiol, biliau cartrefi a’r dreth gyngor, a bod prisiau bwyd a thanwydd cynyddol yn achosi i bobol fynd i ddyledion.

Nododd yr ymchwiliad y byddai cynnydd posib o 30% ym mhrisiau nwy a thrydan yn 2022 yn gwthio pobol “i dlodi Fictorianaidd”.

Mae Sioned Williams yn galw am ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru i weithio ag awdurdodau lleol i fynd i’r afael â’r sefyllfa.

‘Brawychus’

“Roedd canfyddiadau [yr ymchwiliad] yn frawychus,” meddai ar lawr y Siambr.

“Mae gan Lywodraeth Cymru gamau y gallai eu cymryd, gan gynnwys gweithio gydag awdurdodau lleol i glirio rhai o’r ôl-ddyledion treth gyngor sylweddol sydd wedi’u cronni yn ystod y pandemig.

“Mae hi hefyd yn bryd archwilio’r posibilrwydd o ddeddfwriaeth a fyddai’n gosod dyletswydd ar bob corff cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion a cholegau, er mwyn atal dyled.

“Wrth i ni nesáu at y Nadolig, rwy’n gobeithio y byddwn yn medru cofio am y rhai sydd mewn angen, ond mae’n rhaid hefyd cofio bod angen cymorth drwy gydol y flwyddyn.”

Talu biliau

Yn ôl Sefydliad Bevan mae 130,000 o aelwydydd yng Nghymru Cymru, sef 10% o holl aelwydydd y wlad, wedi syrthio ar ei hôl hi ar fil rhwng Ionawr a Mai eleni.

Dros yr un cyfnod, roedd 230,000 o aelwydydd, sef 17% o’r holl aelwydydd wedi benthyg arian.

Roedd y cynnig hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar San Steffan i atal Llywodraeth San Steffan rhag torri’r £20 yn ychwanegol i gredyd cynhwysol.

“Mae San Steffan wedi gwaethygu’r broblem mewn llawer o achosion, gan gynnwys diddymu’r codiad credyd cynhwysol o £20, a chael gwared ar y rhwyd ddiogelwch ffyrlo ymhell cyn y dylai fod,” meddai.

“Yn y cyfamser, mae nifer o’r cynlluniau cymorth a gyflwynwyd er mwyn amddiffyn y rheiny sydd mwyaf agored i niwed naill ai wedi dod i ben neu ar fin gwneud.”

Effaith ar iechyd meddwl

Fe gyfeiriodd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, at effaith iechyd meddwl dyledion ar deuluoedd sy’n ceisio ad-dalu dyledion.

Yn ystod y ddadl, fe wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig alw ar y llywodraeth i gyflwyno Cynllun Tywydd Oer i helpu gyda chostau tanwydd dros y gaeaf.

“Amcangyfrifwyd bod 12% neu 155,000 o aelwydydd yng Nghymru yn profi tlodi tanwydd,” meddai Mark Isherwood, llefarydd Cymunedau a Llywodraeth Leol y blaid.

“Cyn COVID, gwelwyd cynnydd o 45% yng Nghymru yn nifer y marwolaethau ychwanegol yn y gaeaf yn 2019-20. Mae gan Gymru rai o’r stoc dai hynaf a lleiaf effeithlon o ran thermol o’i chymharu â’r DU ac Ewrop.”

Yn ôl elusen StepChange, mae 33% o ddyledion cartrefi yn gysylltiedig â biliau dŵr, 27% yn filiau trydan a 26% yn filiau nwy di-dâl.

Fodd bynnag, y ganran fwyaf o ddyledion yn ôl StepChange yw treth y Cyngor ddi-dâl, sef 35%.

Llywodraeth Cymru

Wrth ymateb, dywedodd Jane Hutt fod penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddileu’r £20 ychwanegol mewn credyd cynhwysol yn mynd i yrru mwy o aelwydydd i ddyledion dros y misoedd nesaf.

“Rydym wedi sicrhau bod £51m ar gael i ddatblygu ein cronfa cymorth cartref pwrpasol i helpu teuluoedd sy’n wynebu’r argyfwng costau byw i dalu eu biliau’r gaeaf hwn,” meddai.

“Bydd y gronfa cymorth i aelwydydd yn helpu i liniaru penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i dorri credyd cynhwysol o £20 i ddegau o filoedd o deuluoedd.”

Bydd cronfa gymorth hefyd i helpu teuluoedd dalu biliau ynni dros y gaeaf yn ogystal ag arian ychwanegol ar gael i fanciau bwyd a chynlluniau bwyd cymunedol.

“Bydd mwy na £38m ar gael drwy gynllun cymorth tanwydd gaeaf, fel y clywsom heddiw ar gyfer aelwydydd sy’n cael budd-daliadau prawf modd o oedran gweithio,” meddai.

“Mae’n bwysig rhannu’r wybodaeth: bydd y cynllun yn agor ar gyfer ceisiadau ar 13 Rhagfyr. Bydd aelwydydd cymwys yn gallu hawlio taliad untro o £100.”