Mae pryderon am effaith rhestrau aros hir i weld deintydd yn sgil y pandemig ar gleifion yng Nghymru.
Mae ffigurau’r Gwasanaeth Iechyd yn dangos bod cyrsiau triniaeth ddeintyddol wedi gostwng dros 75% yn 2020-21.
Cyn y pandemig, cafodd ychydig dros 2.3m o gyrsiau triniaeth eu cwblhau bob blwyddyn gan ddeintyddion y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Ond mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 544,755 o gyrsiau triniaeth wedi eu cofnodi yn 2020-21 – gostyngiad o 76.7%.
Cafodd llai na 3,500 o asesiadau deintyddol ar blant eu cofnodi yn 2020-21, sy’n ostyngiad o 99.4%.
Er i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y byddai gwasanaethau deintyddol yn cael £3m yn ychwanegol eleni i gefnogi adferiad y sector, mae Aelodau o’r Senedd wedi lleisio pryderon gyda’r Gweinidog Iechyd gan alw ar y llywodraeth i fynd i’r afael â’r sefyllfa bresennol.
Prinder deintyddion
Mae’n debyg mai prinder deintyddion ynghyd â chyfyngiadau Covid sy’n rhannol gyfrifol am y rhestrau aros hir.
Wrth siarad ar lawr y Siambr yr wythnos hon, dywedodd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, fod yna brinder deintyddion yn ardaloedd gorllewin a chanolbarth Cymru.
“Mae pryderon enfawr ynghylch diffyg deintyddion, ar draws y rhanbarth, ac yn benodol, yn Llandrindod, sydd wedi bod yn wir ers nifer o flynyddoedd, cyn Covid,” meddai.
“Gwyddom fod heriau sylweddol o ran Covid o ran trin pobol mewn deintyddfeydd, ond mae gwahaniaeth enfawr yma.
“Os ewch chi at ddeintydd preifat, gallwch gael eich gweld bron ar unwaith. Os ewch chi at ddeintydd y Gwasanaeth Iechyd, allwch chi ddim gwneud hynny. A does dim ots hynny os ydyn ni mewn cyfnod o Covid neu beidio.”
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymraig mae rhai cleifion yn gorfod teithio i dderbyn triniaeth oherwydd diffyg deintyddion yng Nghymru.
“Mae’n destun pryder ac mae cleifion sy’n cael eu gorfodi i fynd i Loegr neu symud i ymarfer preifat yn destun pryder mawr,” meddai Russel George, y llefarydd iechyd.
“Mae’r Gweinidog Iechyd wedi cyfaddef bod problem recriwtio a chadw ym maes deintyddiaeth yng Nghymru ac nid wyf yn credu y bydd £3m i gefnogi adferiad y sector o’r pandemig yn gwneud y gwaith – mae hynny’n llai na punt y claf.
“O ystyried bod y Llywodraeth Lafur wedi ailagor gwasanaethau deintyddol yn hwyrach nag yn Lloegr, mae’n dangos penderfyniad arall y mae angen craffu arno mewn ymchwiliad Covid sy’n benodol i Gymru, sy’n dal i gael ei rwystro gan Mark Drakeford.”
Cynllun deng mlynedd
Wrth ymateb, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Eluned Morgan fod y Llywodraeth yn dechrau datblygu cynllun deng mlynedd i fynd i’r afael â’r sefyllfa ddeintyddol ledled Cymru.
“Mae angen inni gael sefyllfa, ac rwyf wedi gofyn i’m swyddogion ddechrau datblygu cynllun deng mlynedd, i ddeall ble yr ydym yn mynd gyda hyn, oherwydd mae’n gwbl glir i mi fod mwy o bobol yng Nghymru am gael mynediad at ddeintyddion y Gwasanaeth Iechyd na’r lleoedd sydd ar gael, ac, ar hyn o bryd, nid yw’r model yn darparu ar gyfer hynny,” meddai.
“Rydych hefyd yn ymwybodol, ar hyn o bryd, tra bydd Covid yn parhau i fod yn broblem, a’i fod yn feirws sy’n cael ei gario drwy’r aer, mae’n broblem wirioneddol. A’r glanhau rhwng cleifion hefyd, dydy hyn oll ddim yn gwneud dim i helpu i gyflymu’r sefyllfa.”
Cyfyngiadau
Yn ôl Cymdeithas Ddeintyddol Cymru (BDA), mae nifer y cleifion wedi gwella eleni ac mae practisau’n gweithredu ar 40 i 60% o’u lefelau cyn y pandemig.
Ond mae cyfyngiadau Covid-19 yn parhau i fodoli mewn deintyddfeydd gyda diheintio aer y feddygfa rhwng pob claf yn ychwanegu at ostyngiad yn nifer y cleifion y gall deintydd eu gweld o ddydd i ddydd.
Er bod BDA Cymru wedi croesawu’r gefnogaeth ychwanegol o £3m gan Lywodraeth Cymru, mae wedi pwysleisio ei bod yn annhebygol o brofi newid y sefyllfa tra bydd cyfyngiadau Covid ar ddeintyddion yn parhau mewn grym.
“Hyd yn oed gyda mesurau llym ar waith i ddiogelu cleifion a staff rhag Covid-19, mae tua 30,000 o bobol nawr yn cael eu gweld wyneb yn wyneb bob wythnos ar draws Cymru, a 2,500 o bobol eraill yn cael cyngor ac ymgynghoriadau, neu ymgynghoriadau dilynol, gan eu practisau deintyddol yn rhithwir,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.