Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi wyth marwolaeth newydd sy’n gysylltiedig â Covid-19, a 2,791 o achosion newydd yn y 24 awr hyd at 9 o’r gloch fore heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 2).
O ganlyniad, mae cyfanswm y marwolaethau bellach yn 6,420, gyda nifer yr achosion ers dechrau’r pandemig wedi codi i 513,790.
Fodd bynnag, mae’r gyfradd saith diwrnod ym mhob 100,000 o bobol wedi gostwng ychydig eto, o 471.8 i 464.5, tra bod cyfradd y profion positif wedi aros yn eithaf cyson, gan ostwng o 17% i 16.9%.
Gwynedd sy’n parhau i fod â’r gyfradd achosion uchaf yng Nghymru o bell ffordd, ond fe wnaeth y gyfradd ostwng o 870.3 i 837.3 yn y ffigyrau diweddaraf.
Ar ôl Gwynedd, mae’r cyfraddau uchaf yn parhau ym Mro Morgannwg (665.5), Ynys Môn (599.6) a Sir Benfro (529.3).
Ceredigion yw’r sir sydd â’r gyfradd isaf yng Nghymru (220.1), ac mae Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Conwy, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf hefyd â chyfraddau is na 400.
Mae 2,266,994 o bobol wedi cael dau ddos o frechlyn, ac 874,483 wedi cael brechlyn atgyfnerthu.