Mae pwyllgor seneddol sydd wedi cwrdd i drafod datganoli rhagor o bwerau i Lywodraeth Cymru wedi clywed mai system les y Deyrnas Unedig sy’n rhannol gyfrifol am lefelau tlodi yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru’n awyddus i dderbyn pwerau fel eu bod nhw’n gyfrifol am fudd-daliadau, ac roedd y drafodaeth yn San Steffan yn rhan o drafodaethau ehangach ynghylch y system les yng Nghymru.

Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymru, fod Llywodraeth Cymru’n gwthio am ragor o bwerau er mwyn “cyflwyno system les o fudd i bobol yng Nghymru”.

Wrth gyfeirio at lefelau tlodi yng Nghymru ar hyn o bryd, dywedodd fod mai “cyfrifoldeb ar y cyd” yw’r sefyllfa.

Mae mwy o bwerau i weinyddu budd-daliadau hefyd yn rhan o’r cytundeb diweddar rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru, meddai wrth y pwyllgor.

Trugaredd

Mae gan Lywodraeth nifer o gynlluniau budd-daliadau eisoes, gan gynnwys prydau am ddim mewn ysgolion a gafodd ei ymestyn i wyliau’r ysgol yn ystod y pandemig, cynllun gostwng treth y cyngor, pecyn cymorth tanwydd y gaeaf, a chymorth drwy ddisgresiwn i roi grantiau i bobol mewn angen.

Dywedodd Jane Hutt wrth y pwyllgor fod gweinidogion yn cydweithio â Sefydliad Bevan i helpu i greu siartr ar gyfer budd-daliadau sy’n amlinellu system fudd-daliadau i Gymru ar sail “trugaredd”.

Wrth ymateb i gwestiwn gan Rob Roberts, Aelod Seneddol Ceidwadol Delyn, dywedodd Jane Hutt fod sawl papur eisoes yn amlinellu’r cynllun a sut fydd e’n cael ei weithredu.

Clywodd aelodau seneddol dystiolaeth hefyd gan nifer o elusennau a sefydliadau, gan gynnwys Cyngor Ar Bopeth Cymru ac Anabledd Cymru, sy’n dweud bod nifer fawr o bobol yn cael anhawster wrth geisio cael mynediad i fudd-daliadau oherwydd bod y system yn gymhleth, yn enwedig Credyd Cynhwysol, a bod y budd-daliadau’n annigonol.

Tystiolaeth

Yn ôl Megan Thomas, swyddog polisi ac ymchwil Anabledd Cymru, “dydy pobol ddim yn derbyn digon” o gymorth, dydyn nhw ddim yn gallu fforddio bwyd, rhent ac anghenion sylfaenol eraill.

Dywed fod pobol ag anableddau’n aml yn byw â salwch hirdymor ac yn wynebu “trawma” wrth orfod gael eu hasesu dro ar ôl tro er nad yw eu cyflwr byth yn gwella, sy’n bobol a ddylai dderbyn “gwobrau hirdymor”, yn ôl Alison Correia o Gartrefi Conwy.

Yn ôl Cordelia Deady o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, gall fod miloedd o bobol yn byw mewn tlodi heb sylweddoli bod cymorth budd-daliadau ar gael iddyn nhw.

Yn ôl Gwennan Hardy o Gyngor Ar Bopeth Cymru, mae un ym mhob pedwar o bobol yng Nghymru wedi oedi neu wedi penderfynu peidio hawlio budd-daliadau, naill ai o ganlyniad i gymhelliant negyddol neu anhawster wrth gael mynediad at fudd-daliadau.

Mae hi’n annog yr Adran Gwaith a Phensiynau i symleiddio’r system, ac yn canmol Llywodraeth Cymru am ymrwymo i siartr newydd.

Bydd sesiwn ola’r pwyllgor seneddol ar Ragfyr 8 yn clywed gan weinidogion o’r Adran Gwaith a Phensiynau a David TC Davies, un o’r gweinidogion yn Swyddfa Ysgrifennydd Cymru.

Byddan nhw’n cael eu holi am wersi’r pandemig, y budd-daliadau sydd ar gael a pha mor gymhleth ydyn nhw, a’r cyfathrebu rhwng llywodraethau.