Mae prifysgolion Cymru’n galw am gryfhau safle arloesedd ac ymchwil mewn deddfwriaeth newydd sy’n ymwneud ag addysg uwch.

Wrth roi tystiolaeth gerbron Pwyllgor Plant, Pobol Ifanc ac Addysg y Senedd heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 2), dywedodd y prifysgolion eu bod nhw’n croesawu’r cynnydd sydd wedi’i wneud ers i ddrafft Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) gael ei rannu y llynedd.

Fodd bynnag, dywedodd Prifysgolion Cymru, y corff sy’n cynrychioli’r prifysgolion, fod angen rhagor o waith datblygu ar rai elfennau o’r bil.

Yn ogystal â sefydlu Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil erbyn 2023, mae’r Bil, sy’n mynd drwy’r Senedd ar hyn o bryd, yn cynnwys naw dyletswydd strategol wahanol.

Mae’r corff yn pwysleisio pwysigrwydd cryfhau ymchwil ac arloesedd, a’r cysylltiad rhwng ymchwil, arloesedd a sgiliau yn y dyfodol, yn nyletswyddau strategol y Bil.

Fe wnaeth Prifysgolion Cymru bwysleisio pwysigrwydd ymreolaeth sefydliadau a rhyddid academaidd hefyd.

Ar hyn o bryd, mae’r dyletswyddau yn y Bil cynnwys hyrwyddo dysgu gydol oes, hyrwyddo cyfleoedd cydradd, hyrwyddo gwelliannau parhaus mewn addysg drydyddol ac ymchwil, a chyfrannu tuag at economi arloesol a chynaliadwy.

Maen nhw hefyd yn cynnwys hyrwyddo addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg.

‘Cryfhau’

Wrth siarad â’r Pwyllgor, dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Cadeirydd Prifysgol Cymru, eu bod nhw’n croesawu “amcanion cyffredinol y ddeddfwriaeth ac yn bles gyda’r cynnydd sydd wedi’i wneud”.

“Fodd bynnag, byddem ni’n argymell yn gryf bod y dyletswyddau strategol o ran ymchwil ac arloesedd yn cael eu cryfhau,” meddai.

“Mae hwn am fod yn gomisiwn mawr a byddai ymchwil yn rhan gymharol fach o’r fframwaith cyllidol, felly mae’n hanfodol ein bod ni’n cryfhau safle ymchwil ac arloesedd yn y dyletswyddau.”

‘Cwbl ganolog’

Dywedodd Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru, mai “rhan o’r rheswm dros gael dyletswydd benodol yw’r rôl rydyn ni’n disgwyl i arloesedd ac ymchwil ei chwarae yn y dyfodol, o ran y gymdeithas a’r economi”.

“Mae ymchwil ac arloesedd yn cael ei weld fel un o’r ffactorau allweddol sy’n gyrru llwyddiant,” meddai.

“Mae’n gwbl ganolog. Er enghraifft, yn y ffordd mae’n gwthio datblygu sgiliau.

“Gallai hynny fod yn un o’r buddion gwirioneddol rydyn ni’n ei gael gan y Comisiwn.”

‘Arwain at ddarganfyddiadau’

“Mae cryn ymchwil yn ymwneud â dyfeisio gwybodaeth newydd sy’n dod drwy archwilio, a ni ellir ei ragweld,” meddai Maxine Penlington ar ran Cadeiryddion Prifysgolion Cymru.

“Mae’n arwain at ddarganfyddiadau ymhen 10 i 20 mlynedd fydd o fudd mawr i’r wlad… ond ni allwn ragweld hynny.

“Mae’n rhaid cael elfen o ymchwil sy’n caniatáu archwilio gwybodaeth newydd.”