Mae elusennau canser yn pryderu gan nad oes gan Gymru strategaeth ganser, er i Sefydliad Iechyd y Byd argymell y dylai pob gwlad fod â chynllun o’r fath.
Cyn bo hir, Cymru fydd yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig sydd heb strategaeth.
Wrth roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Iechyd heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 2), dywedodd Andy Glyde o elusen Canser Research y gallai hyn gael effaith ar wella gwasanaethau canser yn yr hirdymor.
“Mae’n anodd iawn gweld beth yw’r llwybr ar gyfer gwella arloesedd mewn gwasanaethau canser yn y tymor hir ac ar lefel genedlaethol,” meddai.
“Y peth sydd ar goll gyda ni mewn gwirionedd yw strategaeth canser ar hyn o bryd.
“Ac mae’n rhaid i ni gofio bod Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell bod gan bob gwlad strategaeth ganser.
“A nes i ni gael hynny, mae’n anodd iawn gweld beth yw’r llwybr ar gyfer gwella arloesedd mewn gwasanaethau canser yn y tymor hir ac ar lefel genedlaethol.”
Cynllunio
Mae Gogledd Iwerddon yn gweithio ar ei chynlluniau ar hyn o bryd ac unwaith iddi ei chwblhau, Cymru fydd yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig heb strategaeth ganser.
Dywed Andy Glyde fod angen cynllunio anghenion staffio diagnosis a thriniaeth canser yn y dyfodol.
“Gallwn sefydlu’r holl lwybrau newydd hyn, gallwn fuddsoddi mewn llawer o offer a phethau, ond oni bai bod gennym y staff cywir ar waith i wneud i hynny ddigwydd, nid yw’n mynd i wneud y gwahaniaeth amlwg y mae cleifion canser yn chwilio amdano.”
Mae tua 19,600 o bobol yn cael diagnosis o ganser bob blwyddyn yng Nghymru, ond mae’r pandemig wedi effeithio ar wasanaethau i gleifion canser.
Ddoe (dydd Mercher, Rhagfyr 1), roedd dadl ar lawr y Siambr yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar wasanaethau triniaeth a diagnosis canser yng Nghymru.
Cafodd cynnig Mabon ap Gwynfor gefnogaeth drawsbleidiol, gyda 39 Aelodau o’r Senedd yn pleidleisio o blaid ei gynnig.
Soniodd yr Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru yn Nwyfor Meirionnydd am ddiagnosis canser ei dad yn 2019.
Y nod yw ehangu nifer y staff mewn proffesiynau canser allweddol drwy fuddsoddi mewn hyfforddiant a chyflogi mwy o staff canser i lenwi swyddi gwag cyfredol a sicrhau bod gan y gweithlu’r gallu i ateb y galw cynyddol.
Yn ogystal, roedd galw am sicrhau bod strategaeth ganser yn rhan ganolog o gynlluniau’r llywodraeth wrth symud ymlaen.
Llywodraeth Cymru
Yn ystod y ddadl, dywedodd Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, fod Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau “dull gwell integredig, mwy effeithiol sy’n seiliedig ar ansawdd ar gyfer nifer o wasanaethau clinigol”.
Roedd y dull hwn yn “fwy addas i’r fframwaith cynllunio ar gyfer cyrff Gwasanaeth Iechyd yn lleol ac mae’n llywio holl drefniadau atebolrwydd a ddefnyddiwn gyda holl gyrff lleol y GIG”, meddai.
“Dyma’r dull yr ydym wedi penderfynu y bydd yn gweithio orau i Gymru ac i’n system iechyd,” meddai wedyn.