Mae’r asesiad cenedlaethol cyntaf o droseddau gwledig wedi cael ei lansio gan Brifysgol Aberystwyth.

Bydd yr arolwg ‘Astudiaeth Troseddau Gwledig Cymru’, a gafodd ei lansio gan Ysgol Fusnes Aberystwyth a’r Adran Seicoleg, ar agor i ffermwyr a thrigolion gwledig ledled Cymru.

Bydd arolygwyr yn holi barn ffermwyr am blismona gwledig y pedwar heddlu yng Nghymru, yn ogystal â gofyn iddyn nhw a ydyn nhw’n credu bod Brexit neu Covid-19 wedi effeithio ar gyfraddau troseddu yng nghefn gwlad.

Dyma’r trydydd arolwg gan y Brifysgol ar y mater, ond y cyntaf i ganolbwyntio ar Gymru gyfan.

Roedd y ddau arolwg blaenorol yn allweddol wrth roi argymhellion i Heddlu Dyfed-Powys wrth lunio eu strategaeth ar droseddau gwledig, gan gynnwys cyflwyno swyddogion heddlu arbenigol a gwella’r ffordd roedd troseddau ffermydd yn cael eu cofnodi.

Dywed Cydlynydd Troseddau Gwledig a Bywyd Gwyllt Cymru mai “prin yw’r wybodaeth” am safbwyntiau personol a phrofiadau unigolion o dor-cyfraith yng nghefn gwlad, gyda’r ymchwil yn “allweddol” i geisio datrys hynny.

Wyn Morris a Dr Gareth Norris o Brifysgol Aberystwyth

‘Pryderon newydd’

Mae Dr Gareth Norris o Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth, wedi bod yn sôn am rai o’r heriau mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi eu codi.

“Mae’n ymddangos bod troseddau gwledig bob amser ar gynnydd,” meddai.

“Mae’r 18 mis diwethaf wedi arwain at bryderon newydd o ran troseddu sy’n deillio o faterion fel Brexit, Covid-19, diogelwch bwyd a mwy o dwristiaeth ddomestig.

“Am y tro cyntaf, bydd yr arolwg diweddaraf o droseddau gwledig yn dod â’r pedwar heddlu yng Nghymru ynghyd, a bydd yn sicrhau sylfaen dystiolaeth fel bod modd datblygu ymatebion priodol.”

‘Sylwadau pobol yn hanfodol’

Mae Rob Taylor, Cydlynydd Troseddau Gwledig a Bywyd Gwyllt Cymru, yn croesawu cael adroddiad i gynyddu’r wybodaeth sydd ar gael am droseddau gwledig.

“Er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw broblemau, mae angen i chi wybod beth yw’r union broblemau hynny,” meddai.

“Rydym ni yn yr heddlu yn gwybod am ffermwyr sydd, yn anffodus, yn dioddef troseddau. Serch hynny, prin yw’r wybodaeth sydd gennym am y rhai nad ydynt efallai wedi’u targedu’n bersonol ond sy’n teimlo bod troseddu yn cael effaith ar eu cymunedau.

“Mae cael sylwadau pobol yn hanfodol o ran yr hyn sy’n digwydd yn ein hardaloedd gwledig a sut rydym ni yn yr heddlu yn mynd i’r afael â’r materion hynny.

“Bydd yr arolwg hwn yn rhoi gwybodaeth allweddol i ni y gallwn ei defnyddio drwy Gymru i fynd i’r afael â’r materion hyn.”

Mae modd i ffermwyr neu drigolion o gymunedau gwledig gwblhau’r arolwg ar-lein, a bydd gweminar yn cael ei gynnal ynglŷn â throseddau gwledig ar Ragfyr 9, gyda thocynnau hefyd ar gael ar-lein.