Bu farw 8,236 o breswylwyr cartrefi gofal Cymru y llynedd, sy’n gynnydd o 20.3% o gymharu â 2019.
Yn ôl ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, roedd cynnydd o 17% yn y marwolaethau o gymharu â’r cyfartaledd dros y bum mlynedd rhwng 2015 a 2019.
Mae’r ystadegau yn ystyried unrhyw un oedd yn byw ac yn derbyn gofal mewn lleoliad lle mae gofal a llety’n cael ei gynnig gyda’i gilydd.
Mae’r ystadegau’n cynnwys marwolaethau preswylwyr cartrefi gofal, lle bynnag y gwnaethon nhw ddigwydd.
Oni bai am Ddementia ac Alzheimer, Covid-19 oedd prif achos marwolaethau ar gyfer menywod a dynion mewn cartrefi gofal preswyl yng Nghymru y llynedd.
Ystadegau
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, roedd Covid-19 yn gyfrifol am 15.8% o’r marwolaethau mewn cartrefi gofal yng Nghymru yn ystod y flwyddyn.
Roedd Covid yn bennaf gyfrifol am 19.1% o farwolaethau ymysg dynion mewn cartrefi gofal yng Nghymru, ac 14% o fenywod.
O ystyried maint y boblogaeth a strwythur oedrannau, roedd cyfraddau marwolaeth wedi’u cysoni yn ôl oedran ar gyfer dynion mewn cartrefi gofal yn sylweddol uwch nag y rhai ar gyfer menywod yn 2020.
Roedd y cyfraddau ar gyfer dynion yn sylweddol uwch na’r cyfraddau dros y bum mlynedd diwethaf hefyd, gyda 9,381.4 marwolaeth ym mhob 100,000 o ddynion mewn cartrefi gofal preswyl.
O gymharu, doedd y gyfradd ar gyfer menywod ond yn sylweddol uwch na’r gyfradd yn 2017 (6773.9 marwolaeth ym mhob 100,000 o fenywod mewn cartrefi gofal preswyl).
Fe wnaeth y rhan fwyaf o breswylwyr cartrefi gofal farw o fewn y cartref gofal yng Nghymru (83.5%), gan ddilyn patrwm 2019.