Fe fydd ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal i lywodraethiant Clwb Criced Swydd Efrog yn dilyn yr honiadau o hiliaeth sefydliadol, yn ôl adroddiadau.
Yn sgil honiadau gan y cyn-chwaraewr Azeem Rafiq, mae’r prif weithredwr Mark Arthur a’r cadeirydd Roger Hutton eisoes wedi gadael eu swyddi.
Yr Arglwydd Patel yw’r cadeirydd newydd, ac mae e eisoes wedi ymddiheuro wrth Azeem Rafiq ar ran y clwb.
Bydd cwmni cyfreithiol yn cynnal yr ymchwiliad annibynnol, ac yn adrodd yn ôl ar Ionawr 24 ar ôl casglu tystiolaeth gan Glwb Criced Swydd Efrog, Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB), unigolion a’r gymuned griced ehangach.
Mae Clwb Criced Swydd Efrog wedi’u gwahardd rhag cynnal gemau rhyngwladol yn sgil eu hymateb neu ddiffyg ymateb i honiadau Azeem Rafiq, y cyn-chwaraewr sydd wedi bod gerbron pwyllgor seneddol yn San Steffan yn trafod ei brofiadau.
Mae dau gyn-chwaraewr arall y sir a thri chyn-chwaraewr Essex hefyd wedi gwneud honiadau o hiliaeth sefydliadol, ac mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr wedi cyhoeddi cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r sefyllfa, gan gynnwys dirwyon a chamau disgyblu i unrhyw sir sy’n methu mynd i’r afael â honiadau tebyg pe baen nhw’n codi yn y dyfodol.