Colli gartref o 2-0 yn erbyn Yeovil oedd hanes deg dyn tîm pêl-droed Wrecsam heno (nos Fawrth, Tachwedd 30).

Daeth y ddwy gôl yn yr ail hanner, gyda Josh Staunton a Sunny Blu Lo-Everton yn rhwydo yn y gêm yn y Gynghrair Genedlaethol.

Cafodd Liam McAlinden ei anfon o’r cae am daro Dan Moss â’i benelin ar ôl hanner awr, ac roedd Wrecsam dan bwysau ar ôl hynny.

Daeth y gôl gyntaf ar ôl 63 munud, wrth i Staunton rwydo oddi ar groesiad Jordan Barnett i’r postyn pellaf.

Daeth yr ail ar ôl 82 munud wrth i Lo-Everton daro’r bêl i’r rhwyd wrth iddi adlamu oddi ar ergyd Charlie Wakefield at y golwr.