Mae’r Torïaid wedi dal eu gafael ar etholaeth Old Bexley a Sidcup yn ne ddwyrain Llundain mewn is-etholiad wedi marwolaeth y cyn-Aelod Seneddol.
Derbyniodd Louie French fwy na hanner y pleidleisiau yn yr is-etholiad, a gafodd ei alw wedi marwolaeth y cyn-weinidog cabinet James Brokenshire.
Roedd yna ogwydd o 10% tuag at y Blaid Lafur, ac ni wnaeth dau draean o’r rhai oedd yn gymwys i bleidleisio fwrw pleidlais.
Cafodd mwyafrif y Torïaid ei chwtogi o bron i 19,000 pleidlais yn yr etholiad diwethaf i 4,478.
Daeth arweinydd Reform, Richard Tice, yn drydydd, y Blaid Werdd yn bedwerydd, a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn bumed.
“Anrhydedd”
Defnyddiodd Louie French ei araith i roi teyrnged i’w “ffrind da”, James Brokenshre, a fu farw o ganser yr ysgyfaint fis Hydref.
“Mae hon wedi bod yn ornest galed, sydd wedi cael ei hymladd â pharch ac urddas.”
“Byddaf yn canolbwyntio ar gyflwyno’r addewidion y gwnes i yn ystod yr ymgyrch – cael cyfran deg o heddlu Llundain yma, sicrhau mwy o fuddsoddiadau ar gyfer ysgolion ac ysbytai lleol, ac amddiffyn mannau gwyrdd.”
Fe wnaeth addo i bleidleiswyr y byddai’n “gweithio’n ddiflino i ad-dalu’r ymddiriedaeth rydych chi wedi’i roi ynof a ni fyddaf yn eich siomi”.
“Hwn yw anrhydedd mwyaf fy mywyd. Dw i’n gobeithio y bydd yn ysbrydoli pobol i lwyddo gyda’u breuddwydion eu hunain,” meddai Louie French, sy’n gynghorydd lleol.
“Canlyniad rhyfeddol”
Fe wnaeth Daniel Francis, yr ymgeisydd Llafur, dderbyn 6,711 pleidlais, bron i 31% o’r cyfanswm, sef cynnydd o’r 23.5% dderbyniodd y blaid yno yn yr etholiad cyffredinol yn 2019.
Gostyngodd mwyafrif y Torïaid yno o 64.5% yn 2019 i 51.5%.
Dywedodd Cyfreithiwr Cyffredinol cabinet y Blaid Lafur, Ellie Reeves, wrth PA eu bod nhw’n “falch gyda’r canlyniad”.
“Mae fan hyn yn un o gadarnleoedd y Ceidwadwyr, rhywle roedd ganddyn nhw fwyafrif o 19,000 yn yr etholiad cyffredinol diwethaf ac rydyn ni wedi gweld y mwyafrif hwnnw’n cael ei gwtogi heno. Mae yna ogwydd o 10% tuag at Lafur.
“Rydyn ni wedi bod yn cnocio drysau am wythnosau yma ac wedi darganfod bod nifer fawr o bleidleiswyr Ceidwadol wedi dweud nad ydyn nhw am bleidleisio drostyn nhw y tro hwn, dw i’n mynd i bleidleisio dros Lafur.
“Mae hi’n amlwg ein bod ni’n adennill ymddiriedaeth pobol ac mae hwn yn ganlyniad rhagorol i ni mewn cadarnle Torïaidd.”