Fe wnaeth troseddau casineb homoffobig a thrawsffobig gynyddu’n sydyn ar ôl i’r cyfnodau clo ddod i ben, meddai’r heddlu.

Yn ôl dadansoddiad newydd o gofnodion y glas, fe wnaeth y troseddau yn y Deyrnas Unedig gyrraedd eu lefel misol uchaf ers dechrau’r pandemig pan ddaeth y cyfyngiadau i ben eleni.

Cafodd o leiaf 14,670 o droseddau casineb yn ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol eu cofnodi rhwng Ionawr ac Awst 2021, o gymharu â 11,841 yn yr un cyfnod yn 2020, a 10,817 yn 2019.

Ar gyfartaledd, cafodd 1,456 o droseddau eu cofnodi bob mis rhwng Ionawr ac Ebrill eleni, ond fe wnaeth y nifer neidio i gyfartaledd o 2,211 rhwng Mai ac Awst.

Mae’r tueddiad ar gyfer troseddau trawsffobig yn debyg, gyda chyfartaledd o 208 y mis rhwng Ionawr ac Ebrill, ac yna 324 rhwng Mai ac Awst.

Cafodd asiantaeth newyddion PA afael ar yr ystadegau drwy ymatebion gan 37 o 46 heddlu’r Deyrnas Unedig.

“Perygl o ymosodiad”

Dywedodd elusen Stonewall fod y cynnydd yn “peri pryder” a bod yr ystadegau’n ffordd o atgoffa pobol bod y gymuned LHDTC+ “dal mewn perygl o ymosodiad oherwydd pwy ydyn ni”.

Fe wnaeth Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu annog dioddefwyr i gamu ymlaen, gan ddweud y bydd yr heddlu yn “trin pawb gyda pharch ac urddas, a thrin achosion yn sensitif”.

Roedd cyfyngiadau’r cyfnod clo mewn grym dros y Deyrnas Unedig am y rhan fwyaf o dri mis cyntaf 2021, ac erbyn diwedd Mehefin roedden nhw i gyd wedi codi, fwy neu lai.

Cafodd y nifer uchaf o droseddau homoffobig (2,389) a thrawsffobig (371) eu cofnodi ym mis Mehefin.

Mae hynny’n gyfystyr ag 80 o droseddau homoffobig, a 12 trosedd trawsffobig y diwrnod, tua dwbl faint oedd yn cael eu cofnodi ym mis Ionawr.

Yn ôl sefydliadau, mae angen mwy o ymchwil i weld beth oedd y rhesymau a arweiniodd at y cynnydd, ond mae’n bosib bod mwy o gyfleoedd i adrodd am droseddau, cynnydd mewn pobol yn mynd allan, ac ailagor economi’r nos yn rhannol gyfrifol.

Gallai ffactorau eraill gynnwys bod mwy o ymgysylltiad gan rwydweithiau cefnogaeth yn annog dioddefwyr i adrodd am droseddau, bod y pandemig wedi arwain at ymosodiadau, neu fod gan y gymuned LHDT broffil uwch ym mis Mehefin yn sgil mis Pride.

Effaith y pandemig

Dywedodd prif weithredwr Galop, elusen gwrth-drais LHDT+, eu bod nhw wedi lansio llinell gymorth ar gyfer troseddau casineb ym mis Chwefror 2021 “oherwydd ein bod ni wedi gweld effaith real ar y gymuned yn sgil y pandemig ei hun”.

“Gwelsom ni yn ystod y pandemig bod pobol LHDT+ yn profi cam-driniaeth neu drais a gafodd ei waethygu neu ei achosi gan y pandemig,” meddai Leni Morris.

“Mae gennym ni rai pobol oedd yn ddioddefwyr camdriniaeth ac ymosodiadau oherwydd eu bod nhw wedi cael eu beio am y pandemig, naill ai oherwydd bod y troseddwyr yn credu mai Duw oedd yn gyfrifol am y pandemig – oherwydd bodolaeth pobol LHDT+ – neu oherwydd cysylltiad y gymuned â’r pandemig mawr diwethaf ym meddyliau pobol, sef y pandemig HIV Aids.”

“Peri pryder”

Dywedodd Eloise Stonborough, cyfarwyddwr cyswllt polisi ac ymchwil Stonewall, fod yr ystadegau yn annhebygol o fod yn rhoi’r darlun llawn yn sgil tan-adrodd, a bod hi’n hanfodol bod troseddau casineb yn cael eu cofnodi a’u herlyn yn gywir.

“Mae pobol LHDTC+ wedi’i chael hi’n anodd yn ystod y pandemig, gyda nifer methu cael mynediad at rwydweithiau a lleoliadau ar gyfer cymorth hanfodol yn ystod y cyfnodau clo,” meddai Eloise Stonborough.

“Mae hi bob tro’n peri pryder gweld cynnydd mewn troseddau casineb gwrth-LHDTC+, yn enwedig ar adeg pan roedd ein cymunedau yn fwy ynysig nag erioed.”

Mae’r ystadegau 2019 yn dangos gwahaniaethau mewn nifer troseddau o dymor i dymor, ond roedd dipyn mwy o wahaniaeth rhwng y gaeaf a’r haf yn 2020 a 2021.