Mae Osian Roberts wedi talu teyrnged i Gary Speed, cyn-reolwr Cymru fu farw ddegawd yn ôl, wrth iddo siarad â’r wasg ar drothwy gêm Crystal Palace yn erbyn Manchester United fory (dydd Sul, Rhagfyr 5).
Camodd y Monwysyn i’r adwy yn absenoldeb y rheolwr Patrick Vieira ddoe (dydd Gwener, Rhagfyr 3), ar ôl i’r rheolwr orfod gadael sesiwn ymarfer oherwydd “mater teuluol”.
Mae Osian Roberts yn gobeithio y bydd y Ffrancwr wedi dychwelyd erbyn y gêm yn erbyn Manchester United yn Old Trafford.
Roedd Osian Roberts yn aelod o dîm hyfforddi Gary Speed gyda’r garfan genedlaethol, ar ôl cael ei ddyrchafu ganddo yn ystod ei 11 mis wrth y llyw, ac fe aeth yn ei flaen i chwarae rhan flaenllaw yn eu llwyddiant yn Ewro 2016 fel aelod o dîmhyfforddi Chris Coleman a Ryan Giggs.
Ar ôl cyfnod ym Moroco, cafodd e’r cyfle i weithio gyda Crystal Palace yn is-reolwr Vieira, y Ffrancwr y bu’n rhan o’i ddatblygiad fel rheolwr.
Mae e wedi manteisio ar y cyfle i gyfarfod â’r wasg er mwyn talu teyrnged i Speed, gan ddiolch iddo am ei ran yn ei yrfa hyd yn hyn.
“Mae Gary a fi yn mynd yn ôl ymhellach o lawer na’r tîm cenedlaethol oherwydd roeddwn i’n arfer rhedeg y rhaglen addysg i hyfforddwyr yng Nghymru pan ddaeth o i wneud ei drwydded ‘A’ UEFA gan ddechrau ar y daith honno,” meddai.
“Yna, des i â fo i mewn pan oedd o’n dal yn chwaraewr i hyffordd ein tîm cenedlaethol dan 16 i gael profiad ochr yn ochr â mi yr adeg honno.
“Felly wrth gwrs, mi welais i o yn datblygu’n hyfforddwr ein tîm cenedlaethol a gweld yr effaith gafodd o ar bêl-droed yng Nghymru efo’r seiliau osododd o sy’n dal i fod heddiw.
“Mae yna chwaraewyr sy’n dal yn y tîm cenedlaethol oedd yn chwaraewyr ifainc efo fo yn ystod yr adeg honno, felly mae Gary wedi chwarae rhan anferth o ran lle mae pêl-droed Cymru heddiw.
“Roedd yn fraint wirioneddol i mi allu ei gynorthwyo fo a’i helpu fo i roi’r tîm cenedlaethol ar y ffordd tuag at y llwyddiant gawson ni’n ddiweddar.
“Bydd pawb wastad yn cofio’i gyfraniad o i bêl-droed Cymru fel chwaraewr ac yna’n sicr fel rheolwr.
“I mi’n bersonol, mae arna i ddyled anferth iddo fo am y berthynas honno’n gyntaf oll, ac yn ail am ochr broffesiynol pethau lle gwnaethon ni gydweithio a dw i’n sicr yn difaru nad oedd o am yn hirach o lawer.”
Degawd yn ddiweddarach
“Alla i ddim coelio bod degawd wedi bod, ac mae’n amrwd iawn o hyd os ydw i’n onest, ond roedd hi’n braf gweld teyrnged deimladwy yn y rhaglen yn Leeds ganol yr wythnos,” meddai.
“Mae fy meddyliau dros y dyddiau diwethaf wedi bod efo’i wraig Louise, ei rieni a’r hogiau (Edward a Thomas), yn enwedig ei deulu oherwydd mae’n rhywbeth sy’n dal i effeithio arnon ni’n fawr iawn.
“Mae hi wedi bod yn dipyn o adeg drist i bawb dros y dyddiau diwethaf, felly mae o wedi bod yn amrwd ac yn anodd.”
Fel Gary Speed, dechreuodd Patrick Vieira ei daith o dan arweiniad Osian Roberts ar raglen hyfforddi Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Aeth cyn-gapten Arsenal yn ei flaen i fod yn aelod o dîm hyfforddi Manchester City cyn mynd yn rheolwr yn Efrog Newydd a Nice, cyn cael ei benodi’n rheolwr Crystal Palace yn yr haf.
“Does dim ffordd gywir neu anghywir o’i wneud o, ond dw i’n bersonol yn hoffi’r ffordd mae Patrick wedi’i wneud o, efo dim agwedd a thipyn o ostyngeiddrwydd cyn mynd i mewn i’r Uwch Gynghrair,” meddai Osian Roberts.
“Mae gynnon ni’n dau athroniaeth debyg hefyd, a chredu’n debyg o ran y ffordd y dylid chwarae’r gêm.
“Byddai’n anodd iawn gweithio efo rhywun sydd ag athroniaeth a ffordd o weithio a chwarae cwbl wahanol, felly dw i’n credu ein bod ni’n cydweithio’n dda hefo’n gilydd.”