Mae’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn dweud eu bod nhw’n benderfynol o sicrhau bod y gemau sydd wedi cael eu gohirio o ganlyniad i sefyllfa’r feirws yn Ne Affrica yn cael eu cynnal ar ryw adeg.

Dros yr wythnos aeth heibio, doedd dim modd i’r Scarlets na Rygbi Caerdydd, ynghyd â Munster a Zebre, chwarae eu gemau yn y wlad na theithio adref.

Roedd disgwyl i’r pedwar tîm chwarae rhan yn y gemau cyntaf i’w cynnal yn Ne Affrica ers i’r gystadleuaeth newydd gael ei chreu y tymor hwn.

Ond yn sgil cyfyngiadau teithio ac amrywiolyn newydd Omicron, cafodd trefniadau’r timau eu heffeithio, gyda’r Scarlets a Zebre yn llwyddo i adael y wlad, ond bu’n rhaid i Gaerdydd a Munster aros yn sgil profion Covid-19 positif o fewn eu carfannau.

Bu’n rhaid i Gaerdydd aros tan ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 3) i adael De Affrica ar awyren ar eu pedwerydd ymgais o ganlyniad i chwe phrawf positif, a llwyddodd Munster i deithio i Iwerddon ddydd Iau (Rhagfyr 2) er eu bod nhw heb 14 o chwaraewyr a staff sydd wedi profi’n bositif.

Mae’r Scarlets mewn cwarantîn mewn gwesty yn ninas Belffast, tra bod carfan Caerdydd yn hunanynysu yn Llundain.

Gohirio ‘ddim yn opsiwn’

Mae’r EPCR wedi awgrymu nad yw gohirio gemau’n opsiwn ar gyfer Cwpan Pencampwyr na Chwpan Her Ewrop sy’n dechrau y penwythnos nesaf.

Ond mae’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn benderfynol o gynnal pob gêm cyn diwedd y tymor.

Mewn datganiad, maen nhw’n dweud eu bod nhw “wedi ymrwymo i’r fformat ac i sicrhau bod yr holl gemau’n cael eu cynnal”.

Serch hynny, maen nhw’n pwysleisio bod “rhaid i les ein timau a’n chwaraewyr ddod gyntaf”.