Does dim hanner digon o sylw yn cael ei roi i’r ‘W’ sydd ar goll o’r talfyriad ECB ar gyfer yr England and Wales Cricket Board, ond mae Cymru wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad neu yrfaoedd pump o’r chwaraewyr fydd yn chwarae yng Nghyfres y Lludw yn Awstralia fis nesaf.

Bydd y gemau prawf yn dechrau yn y Gabba yn Brisbane, cyn mynd i’r Adelaide Oval, yr MCG ym Melbourne a’r SCG yn Sydney, cyn gorffen yn y WACA yn Perth.

Mae carfannau Lloegr ac Awstralia bellach wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer Cyfres y Lludw yn Awstralia fis nesaf.

Yng ngharfan Lloegr mae Jack Leach a Rory Burns, dau chwaraewr a gafodd eu haddysg ac a ddatblygodd eu crefft fel cricedwyr yn nhîm Prifysgolion Caerdydd yr MCC. A daeth cadarnhad fod dau chwaraewr tramor Morgannwg, y bowliwr cyflym Michael Neser a’r batiwr Marnus Labuschagne, yng ngharfan Awstralia ochr yn ochr â’u cyn-fatiwr Usman Khawaja.

Ar drothwy’r gyfres, dyma gip ar y rhan bwysig mae Cymru wedi’i chwarae yn eu gyrfaoedd.

Jack Leach

Ar ôl graddio o Academi Clwb Criced Gwlad yr Haf yn 2010 ac ennill cytundeb proffesiynol gyda’r sir tra ei fod e hefyd yn chwarae i Dorset ym Mhencampwriaeth y Siroedd Llai, aeth Jack Leach yn ei flaen i chwarae i dîm Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn 2011 a 2012 wrth astudio ar gyfer gradd mewn Hyfforddiant Chwaraeon.

Daeth ei awr fawr ar y llwyfan rhyngwladol pan sgoriodd e un rhediad hollbwysig mewn partneriaeth o 76 gyda Ben Stokes yn Headingley wrth iddyn nhw gwrso’u nod uchaf erioed, 359, yn llwyddiannus cyn mynd yn eu blaenau i gipio’r gyfres.

Dydy e ddim wedi chwarae criced rhyngwladol yn Lloegr ers Cyfres y Lludw 2019.

Awstralia yn cadw'r Lludw

Awstralia’n cadw’r Lludw ar ôl curo Lloegr ym Manceinion

Ond gallai Lloegr unioni’r gyfres gyda buddugoliaeth ar yr Oval

Rory Burns

Mae gan Rory Burns y sgôr dosbarth cyntaf gorau (230) yn hanes Prifysgolion Caerdydd yr MCC, a daeth y batiad hwnnw yn erbyn Rhydychen. Tarodd e ganred yn erbyn Sussex ac Essex a hanner canred yn erbyn Hampshire gan ennill gwobr Brydeinig am ei ymdrechion.

Ar ôl treialon gyda Hampshire a Surrey, cafodd e gytundeb gyda Surrey, lle mae e bellach yn gapten ac fe arweiniodd e’r sir i’w tlws cyntaf ym Mhencampwriaeth y Siroedd ers 2002 yn 2018 a sgorio dros 1,000 o rediadau am y pumed tymor yn olynol a gorffen yn brif sgoriwr y gystadleuaeth.

Enillodd ei le yn nhîm Lloegr y tymor hwnnw yn agor y batio yn erbyn Sri Lanca cyn mynd ar daith i India’r Gorllewin. Cafodd ei ddewis yn y garfan ar gyfer y Lludw yn 2019, a sgorio’i ganred cyntaf (133) yn y prawf cyntaf a sgorio cyfanswm o 390 o rediadau yn y gyfres. Daeth ei ail yn ystod y gaeaf yn erbyn Seland Newydd. Ar ôl sawl cyfres siomedig, roedd e’n ôl ar ei orau yn erbyn Seland Newydd eleni, gyda sgôr o 132 yn y prawf cyntaf ac 81 yn yr ail a chafodd ei enwi’n chwaraewr gorau Lloegr yn y gyfres.

Marnus Labuschagne

Gall Morgannwg hawlio cryn dipyn o’r clod am ddatblygiad y batiwr o Awstralia dros y blynyddoedd diwethaf. Doedd neb yn gwybod fawr ddim amdano fe pan ymunodd e â’r sir ar ddechrau tymor 2019, ac roedd Morgannwg yn ffyddiog eu bod nhw wedi dod o hyd i chwaraewr fyddai’n chwaraewr sirol cadarn.

Pan ddaeth i Gymru ar gyfer hanner cyntaf tymor 2019 yn 24 oed, roedd e ond wedi taro pedwar canred dosbarth cyntaf, gyda sgôr gorau o 134. Roedd e ond wedi chwarae mewn pum gêm brawf, gyda sgôr gorau o 81 yn erbyn Sri Lanca.

Allai neb, felly, fod wedi darogan y byddai’n dod yn un o chwaraewyr amlyca’r byd criced rhyngwladol cyn diwedd y tymor hwnnw. Yn ei ddeg gêm gyntaf i Forgannwg, sgoriodd e gyfanswm o 1,114 o rediadau gan ennill ei le yn nhîm Awstralia ar gyfer y Lludw. Daeth e i’r cae yn ystod y gêm braf yn y Lludw yn Lord’s fel yr eilydd cyfergyd cyntaf erioed yn lle’r capten Steve Smith. Erbyn diwedd y flwyddyn, roedd e wedi sgorio mwy o rediadau mewn gemau prawf na neb arall yn y byd y flwyddyn honno. Sgoriodd e bedwar canred mewn pum gêm yn erbyn Pacistan a Seland Newydd, gan gynnwys canred dwbl yn Sydney.

Fis Ionawr y llynedd, enillodd e wobr y chwaraewr gorau i dorri drwodd gan yr ICC. Fis yn ddiweddarach, cafodd ei enwi’n Chwaraewr Gemau Prawf y Flwyddyn yn Awstralia, ac yn un o bum Cricedwr y Flwyddyn gan Wisden – gwobr sydd ond yn cael ei roi unwaith i gricedwr yn ystod ei yrfa.

Gyda Tim Paine, capten Awstralia, wedi camu o’r neilltu’n ddiweddar, y gred yw na fydd hi’n hir cyn i Labuschagne arwain ei wlad er mai Pat Cummins sy’n debygol o arwain y tîm drwy gydol y Lludw.

Ym marn Marnus: “Gall dod yma fy ngwella i fel cricedwr”

Alun Rhys Chivers

Mae gan brif dîm criced Cymru un o chwaraewyr gorau’r byd

Diwrnod o gerrig milltir i Forgannwg i ddechrau’r tymor criced

Tri chwaraewr wedi sgorio cant, a dau enw newydd yn y llyfrau hanes

Usman Khawaja

Un arall oedd wedi creu cryn argraff yn ystod ei gyfnod gyda Morgannwg yn 2018 yw Usman Khawaja, y cricedwr cyntaf i’w eni ym Mhacistan a’r Mwslim cyntaf i gynrychioli Awstralia.

Creodd e hanes gyda thri chanred yn ei dair gêm gyntaf i Forgannwg, y chwaraewr cyntaf yn hanes y sir i gyflawni’r gamp. Dau oedd y record flaenorol, gan Javed Miandad, arwr tad Khawaja, yn 1980. Ar ôl sgorio 103 yn erbyn Swydd Northampton, aeth yn ei flaen i sgorio 125 oddi cartref yn erbyn Swydd Warwick a 126 yn erbyn Swydd Derby ar gae San Helen.

Mae e wedi bod i mewn ac allan o’r tîm cenedlaethol dros y blynyddoedd, a dydy e ddim wedi cynrychioli’i wlad ers Cyfres y Lludw 2019 cyn i Steve Smith ddychwelyd ar ôl y cyfergyd oedd wedi rhoi’r cyfle euraid i Labuschagne ddisgleirio. Ond mae Khawaja yn ôl ar ei orau yn 34 oed ac mae’n debygol o gystadlu yn erbyn Travis Head am safle rhif pump yn y drefn fatio – er bod y ddau wedi methu tanio yn y gêm rhwng Queensland a De Awstralia yn y Sheffield Shield, gyda Labuschagne yn sgorio canred.

Usman Khawaja

Canred hanesyddol i Usman Khawaja yng Nghaerdydd

Y batiwr cyntaf erioed yn hanes Morgannwg i sgorio tri chanred mewn tair gêm yn olynol

Michael Neser

Daeth Michael Neser i Forgannwg ar gyfer tymor 2021, gan ymuno â Labuschagne, ei gyd-chwaraewr yn Queensland. Doedd hi ddim yn hir cyn iddo fe danio yng Nghymru, ond mae’n wynebu cryn her wrth geisio ennill ei le yn y tîm prawf, gan fod gan Awstralia’r triawd peryglus – Mitchell Starc, Josh Hazlewood a’r is-gapten Pat Cummins fel bowlwyr cyflym.

Pan ymunodd e â Morgannwg yn niwedd 2020, roedd e wedi cipio 186 o wicedi mewn 56 o gemau dosbarth cyntaf, ac wedi cipio pum wiced mewn batiad bedair gwaith yn ystod ei yrfa. Gyda’r bat, daeth ei ganred cyntaf mewn gemau dosbarth cyntaf wythnos cyn iddo fe ymuno â Morgannwg, ac mae’n cael ei ystyried yn chwaraewr amryddawn erbyn hyn.

Mewn pum gêm Bencampwriaeth i Forgannwg yn 2021, cipiodd e 23 o wicedi ar gyfartaledd o 16.78, gan gynnwys pum wiced mewn batiad yn erbyn tîm Swydd Efrog. Yn ystod y batiad hwnnw, fe gipiodd e wicedi tri batiwr rhyngwladol – Adam Lyth, Gary Balance a Dom Bess.

Morgannwg yn denu bowliwr rhyngwladol Awstralia

Bydd Michael Neser yn ymuno â’r sir fel chwaraewr tramor y tymor nesaf

Bydd y prawf cyntaf yn y Gabba yn Brisbane yn dechrau ddydd Mercher (Rhagfyr 8):

  • Prawf 1af: Rhagfyr 8-12, Brisbane (Gabba) (00:00 GMT)
  • 2il brawf: Rhagfyr 16-20, Adelaide (d/n) (04:00 GMT)
  • 3ydd prawf: Rhagfyr 26-30, Melbourne (23:30 GMT, Rhagfyr 25-29)
  • 4ydd prawf: Ionawr 5-9, Sydney (23:30 GMT, Ionawr 4-8)
  • 5ed prawf: Ionawr 14-18, Perth (02:30 GMT)