Mae Michael Neser, bowliwr cyflym Awstralia, wedi ymuno â Chlwb Criced Morgannwg fel chwaraewr tramor ar gyfer y tymor nesaf.
Fe ddaw yn dilyn ymadawiadau Marchant de Lange a Graham Wagg.
Bydd e ar gael ar gyfer gemau pedwar diwrnod a 50 pelawd, ochr yn ochr â’i gyd-chwaraewr yn Queensland, Marnus Labuschagne.
Mae e wedi cipio 186 o wicedi mewn 56 o gemau dosbarth cyntaf, ac mae e wedi cipio pum wiced mewn batiad bedair gwaith.
Tarodd ei ganred cyntaf mewn gemau dosbarth cyntaf yr wythnos ddiwethaf i Queensland yn erbyn Tasmania.
Mae e wedi taro 11 hanner canred dosbarth cyntaf.
Mewn gemau 50 pelawd, mae e wedi cipio 61 o wicedi, ac mae ganddo fe gyfradd fowlio o 5.28 rhediad y belawd, ac mae e hefyd wedi taro un canred a un hanner canred.
Mae e hefyd wedi chwarae dwy gêm undydd dros Awstralia, ac roedd e’n aelod o’r garfan ar gyfer Cyfres y Lludw y llynedd.
‘Wrth fy modd’
“Dw i wrth fy modd yn arwyddo i Forgannwg a chael chwarae yng Nghymru,” meddai Michael Neser, oedd i fod i chwarae i Surrey eleni cyn i’r coronafeirws darfu ar y tymor.
“Dw i wedi chwarae â sawl un o’r bois sydd wedi chwarae ym Morgannwg – Charlie Hemphrey, Usman Khawaja ac yn enwedig Marnus – a does ganddyn nhw ddim byd ond canmoliaeth i’r clwb, y ffordd mae pethau’n cael eu gwneud, y diwylliant yng Ngerddi Sophia a chyfeillgarwch y staff a’r bobol leol.
“Dw i’n dal yn ysu am gael chwarae criced sirol ar ôl i’m cyfnod eleni gael ei ganslo, felly pan glywais i fod diddordeb gan Forgannwg, doedd dim rhaid i fi feddwl dwywaith.
“Dw i’n awyddus i ddod draw, dangos fy sgiliau a gwneud beth alla i er mwyn ennill gemau criced i Forgannwg.
“Mae gyda fi uchelgeisiau yn rhynglwadol, ac fe welais i beth wnaeth chwarae i Forgannwg i Marnus, a dw i’n gobeithio gwneud yr un fath.”
‘Chwaraewr o safon uchel’
“Mae Michael yn chwaraewr o safon uchel ac fe fydd e’n ychwanegu tipyn i’r ystafell newid,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.
“Mae e’n chwaraewr proffesiynol profiadol ac mae ganddo fe safon ac uchelgais yn rhyngwladol, a’r ysfa yna i wneud yn dda.
“Mae ei allu gyda’r bat a’r bêl yn ei wneud e’n chwaraewr peryglus iawn ar unrhyw adeg mewn gêm, ac rydyn ni’n ei weld e fel un o’r bowlwyr amryddawn gorau yn y gêm ddomestig yn unrhyw le yn y byd, ac mae e’n cynnig cydbwysedd gwych i’r tîm.
“Bydd y chwaraewyr ifainc yn elwa o wylio sut mae e’n mynd o gwmpas ei bethau, a dw i’n sicr y bydd e’n ffefryn ymhlith y cefnogwyr yn gyflym iawn.
“Allwn ni ddim aros i’w weld e allan yna yng Ngerddi Sophia.”