Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi canu clodydd Jay Fulton yn dilyn ei gôl gelfydd neithiwr (nos Fawrth, Hydref 27).

Fe darodd y chwaraewr canol cae y bêl ag ochr allanol ei droed i gornel ucha’r rhwyd i roi ei dîm ar y blaen ar ôl hanner awr o’r gêm yn erbyn Stoke yn Stadiwm Liberty.

Dyblodd Kasey Palmer fantais yr Elyrch gyda’i gôl gyntaf i’w glwb newydd dair munud cyn diwedd y gêm.

Mae’r Elyrch bellach wedi codi i’r ail safle dyrchafiad awtomatig yn y Bencampwriaeth.

“Roedd Jay Fulton yn wych ac fe ddangosodd ei fod e’n chwaraewr o safon,” meddai Steve Cooper.

“Mae e’n chwaraewr a chyd-chwaraewr proffesiynol gwych.

“Bydd ei gôl yn hawlio’r penawdau ond mae e’n gwneud tipyn o stwff nad oes neb yn sylwi arno oni bai am y staff hyfforddi.”