Mae clo Ffrainc Bernard Le Roux ar gael i chwarae yn erbyn Iwerddon ar benwythnos olaf y Chwe Gwlad ar ôl osgoi cosb am daro capten Cymru Alun Wyn Jones.
Digwyddodd y drosedd honedig yn ystod hanner cyntaf gêm gyfeillgar Cymru yn erbyn Ffrainc nos Sadwrn (Hydref 24).
Welodd y dyfarnwr Karl Dickson na’r tîm o ddyfarnwyr cynorthwyol mo’r digwyddiad yn ystod y gêm.
Wynebodd Bernard Le Roux banel disgyblu dros y we brynhawn ddoe (dydd Mawrth, Hydref 27).
Fe wnaeth e gyfaddef ei fod e wedi cyffwrdd Alun Wyn Jones, ond gwadodd ei fod wedi gwneud hynny’n fwriadol.
Er i bwyllgor disgyblu ddod i’r casgliad bod y Ffrancwr wedi chwarae’n fudr, doedd yr hyn a wnaeth ddim yn haeddu carden goch.
Pe bai wedi’i gael yn euog, fe allai’r chwaraewr fod wedi methu gêm olaf y Ffrancwyr yn erbyn Iwerddon yn y Chwe Gwlad a gemau ymgyrch Cwpan Cenhedloedd yr Hydref sydd i ddilyn.
Pe bai Iwerddon yn curo Ffrainc gyda phwynt bonws, y Gwyddelod fyddai pencampwyr y Chwe Gwlad eleni.
Bydd Cymru’n wynebu’r Alban ym Mharc y Scarlets ddydd Sadwrn (Hydref 31).