Roedd buddugoliaethau i dimau pêl-droed Abertawe a Chasnewydd heno (nos Fawrth, Hydref 27), wrth i Wrecsam gipio pwynt am gêm gyfartal ddi-sgôr.
Mae’r canlyniadau’n gadael yr Elyrch yn ail yn y Bencampwriaeth wrth iddyn nhw godi i’r safleoedd dyrchafiad awtomatig, ac mae’r Alltudion yn aros ar frig yr Ail Adran.
Casnewydd 2-1 Colchester
Sgoriodd Padraig Amond gôl fuddugol Casnewydd yn y funud olaf wrth iddyn nhw guro Colchester o 2-1 i aros ar frig yr Ail Adran.
Aeth yr Alltudion ar y blaen drwy Scott Twine, ond roedd yr ymwelwyr yn gyfartal gyda munud yn weddill o’r 90 drwy Jevani Brown.
Ond daeth ail gôl Casnewydd bron yn syth wrth i Amond sgorio o gic gornel wrth i’r bêl adlamu o amgylch y cwrt cosbi.
Mae Casnewydd wedi cael y dechreuad gorau erioed yn y gynghrair, ar ôl ennill pedair gêm o’r bron.
Abertawe 2-0 Stoke
Mae’r Elyrch wedi codi i’r ail safle dyrchafiad awtomatig ar ôl curo tîm Stoke llawn Cymry o 2-0 yn y Bencampwriaeth yn Stadiwm Liberty.
Daeth sawl cyfle i dîm Steve Cooper cyn i Jay Fulton daro chwip o ergyd i’w rhoi nhw ar y blaen.
Gallai’r Elyrch fod wedi sgorio ail oddi ar gic rydd anuniongyrchol y tu fewn i’r cwrt cosbi, a daeth cyfle arall i Jamal Lowe yn niwedd y gêm.
Ond daeth yr ail gôl oddi ar ben Kasey Palmer wrth iddo daro i mewn i’r golwr Angus Gunn, oedd wedi dod i’r cae yn eilydd i’r Cymro Adam Davies ar yr egwyl.
Wrecsam 0-0 Barnet
Cipiodd Wrecsam bwynt ar y Cae Ras ar ôl tair colled o’r bron yn y Gynghrair Genedlaethol, a hynny yn erbyn Barnet sydd heb reolwr a sawl chwaraewr ar hyn o bryd yn sgil y coronafeirws.
Barnet gafodd y gorau o’r hanner cyntaf, a daeth cyfle i Fiacre Kelleher cyn yr egwyl, wrth iddo benio’r bêl dros y trawst oddi ar gic gornel Elliott Durrell.
Bu’n rhaid i Rob Lainton arbed cic rydd Alex McQueen wedi’r egwyl, ac roedd y golwr yn ei chanol hi unwaith eto yn eiliadau ola’r ornest wrth arbed ergyd Josh Walker.
Mae Wrecsam yn aros yn y degfed safle yn y tabl.